Y Swistir
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Unus pro omnibus, omnes pro uno (Lladin: "Un er mwyn pawb; pawb er mwyn un") | |||||
Anthem: Salm Swisaidd | |||||
Prifddinas | Bern | ||||
Dinas fwyaf | Zürich | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Romaunsch | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth Ffederal | ||||
• Cyngor Ffederal | Moritz Leuenberger (Arlywydd 2006) Pascal Couchepin |
||||
Annibyniaeth • Datganwyd • Cydnabuwyd • Gwlad Ffederal |
Siarter Ffederal 1 Awst 1291 24 Hydref 1648 1848 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
41,285 km² (136fed) 4.2 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 2000 - Dwysedd |
7,288,010 (95fed) 7,252,000 182/km² (61af) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $264.1 biliwn (39fed) $35,300 (10fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.947 (7fed) – uchel | ||||
Arian cyfred | Ffranc Swisaidd (CHF ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
Côd ISO y wlad | .ch | ||||
Côd ffôn | +41 |
Mae'r Conffederasiwn Swisaidd neu'r Swistir (enw Lladin swyddogol: Confoederatio Helvetica, Almaeneg: Schweiz, Ffrangeg: Suisse, Eidaleg: Svizzera, Romaunsch: Svizra) yn wladwriaeth ffederal yng nghanol Ewrop, ac felly heb arfordir. Mae'n ffinio â'r Almaen, Ffrainc, yr Eidal, Awstria a Liechtenstein. Bern ydy'r brifddinas, a Zürich ydy'r ddinas fwyaf. Mae'r wlad yn fynyddig iawn ac yn cynnwys rhan helaeth o'r Alpau o fewn ei ffiniau.
Mae'r Swistir yn wlad gefnog gyda thraddodiad cryf o fod yn niwtral yn wleidyddol ac yn filwrol. Serch hynny, mae'r Swistir wedi bod yn flaenllaw ym myd cydweithrediad rhyngwladol, gan roddi cartref i nifer o fudiadau rhyngwladol megis Y Groes Goch.
Mae'r enw Lladin ar y wlad Confoederatio Helvetica yn osgoi gorfod dewis un o bedair iaith swyddogol y wlad, sef Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Romaunsch.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Dominyddir daearyddiaeth y Swistir gan ei mynyddoedd a'i bryniau. Yn y de mae prif gadwyn yr Alpau yn ymestyn ar hyd y ffin â'i copaon uchaf yn dynodi'r ffin honno. Mae'r mynyddoedd hynny a'r bryniau llai sy'n llenwi'r rhan fwyaf o ganolbarth a gogledd y wlad yn cael eu gwahanu gan nifer o ddyffrynoedd a chymoedd mawr a bach.
Y mae'r Swistir yn wlad â nifer fawr o lynnoedd ac afonydd yn ogystal. Mae'n wlad coediog iawn.
shweits är ett land som man käkar mycket ost. ost är lika gott som godis i sweits.
[golygu] Iaith a diwylliant
Sieredir pedair iaith swyddogol yn y Swistir, sef Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Romaunsch.
[golygu] Economi
[golygu] Dolenni Allanol
- (Saesneg) Llywodraeth y Swistir