Cookie Policy Terms and Conditions Cap Bon - Wicipedia

Cap Bon

Oddi ar Wicipedia

Llun lloeren o Gap Bon (NASA)
Llun lloeren o Gap Bon (NASA)

Mae'r Cap Bon (Arabeg كاب بون Ras Eddae) yn ffurfio pwynt gogledd-ddwyreiniol Tunisia a'r Maghreb, yng ngogledd Affrica. Mae'n gorwedd ar lan ddeheuol Môr y Canoldir lle mae'n ffurfio pwynt deheuol Culfor Sisili a phen dwyreiniol Gwlff Tunis.

Mae'r enw Cap Bon (Penrhyn Hardd) yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid, ond yr enw brodorol yw Rass Eddar; gan fod Tunisia yn wlad ddwyieithog, defnyddir y ddau enw yn swyddogol. Yng nghyfnod goruchafiaeth gwareiddiad Carthage, dynodai bwynt deheuol y gallu Rhufeinig ar y môr.

Cyfeirir at Cap Bon fel gwlad ffrwythlon a breswylid gan bobl Berber mewn cofnodion Groeg a Lladin. Bu Cap Bon yn dyst i sawl brwydr am ei fod yn benrhyn o bwys strategol mawr yng nghanol Môr y Canoldir. Ymosododd Agathocle o Syracuse arno yn 310 CC; hanner can mlynedd yn ddiweddarach ceisiodd y Rhufeinwr Regulus ei gipio yn y rhyfel cyntaf rhwng Carthage a Rhufain; o'r diwedd yn 148 CC, cafodd ei oresgyn gan y Rhufeiniaid. Erbyn canol y ganrif 1af CC roedd sawl dinas Rufeinig yng Nghap Bon, e.e. Carpis, Clupea (Kelibia), Curubis (Korba) a Neapolis (Nabeul).

Chwareli-ogofâu Ffenicaidd El Haouaria
Chwareli-ogofâu Ffenicaidd El Haouaria

O ganol y 3edd ganrif OC hyd at dyfodiad yr Arabiaid, ceir tystiolaeth fod Cristnogaeth yn elfen beysig ym mywyd Cap Bon. Fel gweddill Tunisia, cafodd y Cap ei arabeiddio a'i islameiddio o'r 7fed ganrif ymlaen. Codwyd sawl ksar (caer) ar yr arfordir i'w amddiffyn, e.e. Ksar Korbous a Ksar Nouba yn y gorllewin, a Ksar Kelibia, Ksar Lebna, Ksar Korba, a Ksar Nabeul yn y dwyrain. O ddechrau'r 17eg ganrif, daeth nifer o ffoaduriaid Mwslem o Andalucia (y Morisgiaid) i fyw yno, yn arbennig yn Grombalia, Turqui, Belli, Nianou a Soliman, lle gwelir eu pensaerniaeth hyd heddiw. Yn yr Ail Ryfel Byd, ildiodd yr Afrikakorps Almaenig yno, yn Ebrill a Mai, 1943.

Mae'r enw Cap Bon yn cyfeirio yn ogystal at y penrhyn cyfan sy'n ymestyn cyn belled â Hammamet i'r de ac i Soliman yn y gorllewin. Mae'r penrhyn yn mesur 80 km o hyd a rhwng 20 a 50 km o led. Mae'n cynnwys talaith (gouvernorat) Nabeul a threfi Grombalia, Hammamet, Kelibia, El Haouaria, Menzel Bouzelfa, Menzel Temime, Nabeul, a Soliman, yn ogystal â safle archaeolegol Ffenicaidd Kerkouane, sydd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.

Mae daearyddiaeth Cap Bon yn ymrannu'n ddwy ardal naturiol, gyda gwastadedd a bryniau isel ar arfordir y dwyrain, a chadwyn o fynyddoedd isel yn y gorllewin sy'n cyrraedd eu man uchaf gyda Djebel Ben Ouli (637m). Nodweddir arfordir y gogledd gan nifer o faeau a chlogwynni. Oddi ar pen gogleddol Cap Bon ceir ynysoedd Zembra a Zembretta, sy'n gorwedd tua 15 km i'r gogledd-orllewin o El Haouaria.

Gyda 750 mm y flwyddyn o law a thir ffrwythlon, mae'r ardal yn enwog am ei amaethyddiaeth ers dyddiau Carthage a Rhufain.

Mae twristiaeth yn bwysig yn ne-ddwyrain yr ardal, yn arbennig o gwmpas Hammamet lle ceir nifer o westai mawr, ond erys y rhan fwyaf o'r penrhyn heb ei effeithio'n fawr gan y datblygiadau hynny.

[golygu] Dolenni allanol

Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu