Castell Caergwrle
Oddi ar Wicipedia
Mae Castell Caergwrle, wedi ei leoli ym mhentref Caergwrle, yn Sir Fflint, yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Mae'n debyg iddo gael ei godi gan Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, yn 1277, ar dir a roddwyd iddo gan Edward I, brenin Lloegr dan dermau Cytundeb Aberconwy ar ôl ei ryfelgyrch cyntaf ar Gymru. Ymosododd Dafydd ar ddeiliaid Edward ym Mhenarlâg yn 1282, efallai o Gastell Caergwrle, gan achosi ail rhyfelgyrch Cymru Edward. Erbyn i'r Saeson gyrraedd Caergwrle ym Mehefin 1282, roedd y Cymry wedi difrodi'r castell a llenwi'r ffynnon cyn dianc; er hynny, trwsiwyd y castell gan y Saeson, ac fe'i rhoddwyd gan Edward i'w frenhines Eleanor o Castile yn y flwyddyn canlynol, ond llosgwyd y castell i lawr yn ddamweiniol chwe mis yn ddiweddarach. Etifeddodd eu mab, Edward II, y castell cyn iddo gael ei roi i John o Gromwell yn 1308 ar yr amod y buasai'n ei drwsio, ond erbyn 1335 roedd yn adfail.
Erbyn heddiw, does fawr ar ôl o'r amddiffynfeydd, heblaw gwaith pridd ac ychydig o waith carreg gweladwy. Lleolir y castell ar ben allt serth, sydd naill ai wedi ei godi neu'n allt naturiol.
Castell Caergwrle oedd y castell olaf i gael ei godi gan y tywysogion Cymreig. Mae ar agor trwy'r flwyddyn i'r cyhoedd a gellir ei gyrraedd trwy ddilyn llwybr o'r briffordd gerllaw.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (HMSO, Caerdydd, 1983)
- Paul R. Davies, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)