Castell Dolbadarn
Oddi ar Wicipedia
Saif Castell Dolbadarn ar fryn creigiog gerllaw Llyn Padarn, bron rhwng y llyn yma a Llyn Peris, yn agos i bentref Llanberis yng Gwynedd. Dolbadarn oedd prif amddiffynfa Tywysogion Gwynedd yng nghantref Arfon.
Adeiladwyd y castell gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) i amddiffyn y ffordd trwy Nant Peris o'r arfordir gogleddol i galon Eryri. Credir fod caer wedi bod yno o'r chweched ganrif, ond mae'r rhannau hynaf o'r adeiladau presennol yn dyddio o gyfnod Llywelyn.
Nodwedd amlycaf Castell Dolbadarn yw'r tŵr canolog crwn, oedd ar un adeg yn cynnwys tri llawr ac sy'n dal i fod tua 40 troedfedd o uchder, gyda muriau 8 troedfedd o drwch. Nid oes dim yn weddill o'r lloriau mewnol, ond gellir dringo'r grisiau cerrig tu mewn i fur y tŵr. Nid oes cymaint yn weddill o'r adeiladau eraill oedd o gwmpas y tŵr yma, ond gellir gweld seiliau muriau allanol gyda thyrau a neuadd.
Dywedir fod Llywelyn ap Gruffudd wedi defnyddio castell Dolbadarn i garcharu ei frawd Owain ap Gruffudd yn y 1250au. Gwyddir i Owain dreulio tua 20 mlynedd yn garcharor. Yn ddiweddarach, yn ystod y rhyfeloedd yn erbyn Edward I o Loegr yr oedd Dolbadarn yng ngofal brawd arall i Lywelyn, Dafydd ap Gruffudd. Wedi lladd Llywelyn yng Ngilmeri, cipiwyd castell Dolbadarn gan fyddin dan Iarll Penfro. Ffodd Dafydd i'r mynyddoedd, ond ychydig fisoedd wedyn daliwyd ef a'i ddienyddio yn Amwythig. Defnyddiwyd gwaith coed y castell gan Edward i adeiladu Castell Caernarfon. Credir i'r castell gael ei ddefnyddio i gadw carcharorion yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr yn nechrau'r bymthegfed ganrif. Mae Castell Dolbadarn yn awr yng ngofal Cadw.