Castell Caernarfon
Oddi ar Wicipedia
Castell sydd yng nghanol tref Caernarfon, Gwynedd ac ar lannau Afon Seiont ac Afon Menai yw Castell Caernarfon, safle strategol a phwysig iawn yn ystod goresgyniad y Normaniaid. Fe'i codwyd gan Edward I, brenin Lloegr rhwng 1283 a 1330. Mae'n gastell consentrig wedi ei gynllunio gan James o St George, a'r muriau wedi cael eu cynlluno i edrych fel muriau amddiffynnol Caergystennin. Mae Castell Caernarfon yn gampwaith ymhlith cestyll gogledd Cymru ac, fel un o'r cestyll hynny, mae ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1986.
Yn y castell hwn ganwyd Edward II, brenin Lloegr ym 1284, cyn iddo gael ei gwblhau. Cyn hynny roedd yna gaer Rufeinig yn Segontium, tu allan i'r dref bresennol, a chastell Normanaidd yn ogystal.
Yng ngwrthryfel 1294-1295 roedd y dref a'r castell dan reolaeth Madog ap Llywelyn am gyfnod. Yn ddiweddarach, ni lwyddodd Owain Glyndwr i gipio'r castell yn 1403 a 1404.
Yn ystod y Rhyfel Cartref doedd yr adeiladau tu mewn i'r castell ddim mewn cyflwr da iawn, am nad oedd y castell mor bwysig ag y bu yn y drydedd ganrif ar ddeg.
Ym 1911 arwisgwyd y Tywysog Edward, sef Edward VIII yno. Yn 1969 yn ogystal, arwisgwyd Charles, mab hynaf brenhines Lloegr, yn Dywysog Cymru) yn y castell.
Mae Amgueddfa Catrawd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i'w cael yn y castell.