Caernarfon
Oddi ar Wicipedia
Caernarfon Gwynedd |
|
Mae Caernarfon yn dref yng Ngwynedd, yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae'n enwog fel safle Castell Caernarfon, sy'n gastell mawr o feini a godwyd gan Edward I o Loegr. Daw enw'r dref o gaer gynharach, sef Segontium, y gaer Rufeinig sydd ar dir uwch ar gyrion y dref. Y gaer hon a roddodd yr enw "Caer Seiont yn Arfon" neu "Caer Saint yn Arfon", a ddaeth yn ddiweddarach yn Gaernarfon. Mae gan y dref boblogaeth o 9,611 gyda 81.6% yn siaradwyr Cymraeg (97.7% yn yr oedran 10-14), yn ôl Cyfrifiad 2001.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Mae Caernarfon yn safle hanesyddol sydd wedi tyfu dros y canrifoedd i fod yn un o brif drefi Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru. Darganfuwyd olion o waith amddiffynnol cyn-Rufeinig ar safle Twthill, ger y castell presennol. Roedd yn well gan y Rhufeiniaid ddewis safle fymryn i'r de o'r dref i godi eu caer newydd Segontium yn OC 75. O'r safle hwnnw roeddent yn medru rheoli'r mynediad i benrhyn Llŷn a chadw golwg ar Afon Menai ac Eryri. Mae eglwys Llanbeblig, ger y gaer, yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan Peblig, un o feibion Macsen Wledig, a gysylltir ag Elen Luyddog a Chaernarfon yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yng nghainc gyntaf Pedair Cainc y Mabinogi cysylltir y dref â Branwen ferch Llŷr.
Ychydig a wyddys am hanes y dref yn y canrifoedd ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael. Cododd yr arglwydd Normanaidd Hugh d'Avranches, Iarll Caer, gastell mwnt a beili yng Nghaernarfon tua 1090 ar safle'r castell presennol. Ond fe'i cipiwyd gan y Cymry a bu Caernarfon yn nwylo tywysogion Gwynedd hyd y goresgyniad Seisnig yn 1283. Credir fod gan y tywysogion un o'u llysoedd yno. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaernarfon yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
Codwyd Castell Caernarfon gan Edward I o Loegr ar ôl iddo feddianu Gwynedd. Fe'i cynlluniwyd ar batrwm muriau dinas Caergystennin a thyfodd bwrdeistref Seisnig yn ei chysgod. Gwnaethpwyd difrod helaeth i'r castell yn ystod y Gwrthryfel Cymreig (1294-95) dan arweiniad Madog ap Llywelyn. Ymosododd rhyfelwyr Owain Glyndŵr ar y dref a'r castell yn 1403 a 1404, ond heb lwyddo i'w cipio.
Ar ddechrau'r 19eg ganrif roedd Caernarfon yn dref Gymreig fywiog a dyfodd yn gyflym fel porthladd ar gyfer allforio llechi. Codwyd cei newydd ar lan Afon Seiont ac agorwyd Rheilffordd Nantlle i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle gan Robert a George Stephenson yn 1827-28.
Erbyn heddiw mae Caernarfon yn dref farchnad brysur gydag un o'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon ym 1886, 1894, 1906, 1921, 1935, 1940, 1943, 1959 a 1979. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1886
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1894
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1906
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1921
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1935
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1940 (Eisteddfod Radio)
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1943
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1959
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979
[golygu] Gefeilldref
- Landerne, tref yn Llydaw (Landerneau yn Ffrangeg).
[golygu] Gweler hefyd
- Caernarfon (etholaeth Cynulliad)
- Caernarfon (etholaeth seneddol)
- Castell Caernarfon
- C.P.D. Tref Caernarfon
- Segontium