Castell Harlech
Oddi ar Wicipedia
Castell sy'n sefyll uwchben dref Harlech a Bae Tremadog, Gwynedd yw Castell Harlech. Mae'r castell heddiw yn nghofal Cadw. Gosodwyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, fel un o gestyll a muriau trefol y Brenin Edward yng Ngogledd Cymru, yn 1986.
Adeiladwyd y castell gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1283 a 1290. Cynlluniwyd y castell consentrig gan James o St George. Mae'r castell yn adeilad gref iawn uwchben craig fawr, ond gyda grisiau yn arwain at lan y môr. Fel hynny, roedd hi'n bosib anfon cychod dros y mor i'r castell yn ystod gwarchae, er enghraifft o Iwerddon. Defnyddiwyd y grisiau hyn i ddwyn nwyddau i'r castell mewn gwarchae yn ystod rhyfelgyrch Madog ap Llywelyn yn 1294–5.
Ar ôl gwarchae hir, cwympodd Castell Harlech i Owain Glyndŵr ym 1404, ond roedd y castell o dan reolaeth Saeson (Henri o Fynwy) drachefn ar ôl pedair blynedd arall.
Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau roedd y castell dan reolaeth cefnogwyr Cymreig y Lancastriaid a Dafydd ap Ieuan yn cadw'r castell yn wyneb gwarchae fu'n para am wyth mlynedd, ac er fod arweinwyr y Lancastriaid yn Lloegr yn ildio i'r brenin. Mae'r gân 'Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech' yn cyfeirio at y gwarchae hwnnw.
[golygu] Pedair Cainc y Mabinogi
Yn Mhedair Cainc y Mabinogi Castell Harlech yw castell Bendigeidfran a'i chwaer Branwen ferch Llŷr, y dduwies y ceir yr hanes amdani yn Ail Gainc y Mabinogi. Fel yma mae'r Ail Gainc yn dechrau (mewn orgraff ddiweddar):
- 'Bendigeidfran fab Llŷr, a oedd frenin coronog ar yr ynys hon, ac ardderchog (meddianwr) o goron Llundain. A phrynhawngwaith ydd oedd yn Harlech yn Ardudwy, yn llys iddo (ei lys yno). Ac yn eistedd ydd oeddynt ar garreg Harlech, uwch ben y weilgi (môr), a Manawydan fab Llŷr ei frawd gydag ef...'.