Safle Treftadaeth y Byd
Oddi ar Wicipedia
Safle Treftadaeth y Byd yw safle penodol megis coed, cadwyn mynyddoedd, llyn, adeilad, grŵp o adeiladau, tref neu ddinas sydd wedi'i enwebu a'i gadarnhau ar restr a gedwir gan Raglen Treftadaeth y Byd. Cedwir y rhestr hon gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO.
Nod y rhaglen yw rhestri, enwi a diogelu safleoedd o bwysigrwydd diwylliannol neu naturol arbennig i dreftadaeth ddynol gyffredin. O dan amodau arbennig, gall safleoedd ar y rhestr dderbyn arian gan Gronfa Treftadaeth y Byd. Sefydlwyd y rhaglen ar 16 Tachwedd 1972, ac, erbyn 2006, roedd 830 o safleoedd ar y rhestr: 644 o safleodd diwylliannol, 162 o safleodd naturiol and 24 cymysg.
Mae dau Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru: Tirlun Diwydiannol Blaenafon a Chestyll a muriau trefi Harlech, Biwmares, Caernarfon a Chonwy. Mae llywodraeth Prydain wedi rhoi Dyfrbont Pont-Cysyllte ar y 'Rhestr Betrus', hynny yw, y rhestr o safleodd i'w cysudro am eu henwebu yn ystod y blynyddoedd nesaf.