Cefn Digoll
Oddi ar Wicipedia
Bryn yng ngogledd-ddwyrain Powys yw Cefn Digoll (Saesneg: Long Mountain). Saif rhwng afon Hafren a'r ffin â Swydd Amwythig yn Lloegr. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Gorddwr, rhan o deyrnas Powys.
Rhedai ffordd Rufeinig ar hyd y bryn hir.
Chwareodd ei ran yn hanes Harri Tudur. Glaniodd Harri yn Sir Benfro ar 7 Awst 1485 gyda byddin fechan o Lancastriaid alltud a Ffrancod, efallai tua 2,000 i gyd. Teithiodd tua'r gogledd-ddwyrain yn hytrach na'n uniongyrchol tua'r dwyrain, a ger Cefn Digoll ymunodd nifer sylweddol o Gymry â'i fyddin: llu o dde-orllewin Cymru dan Rhys ap Thomas, gwŷr Gwent a Morgannwg dan yr Herbertiaid a gwŷr o ogledd Cymru dan William Griffith o'r Penrhyn. Erbyn hyn roedd ganddo fyddin o tua 5,000. Aeth yn ei flaen i drechu Rhisiart II o Loegr ar Faes Bosworth.