Rhys ap Thomas
Oddi ar Wicipedia
Roedd Syr Rhys ap Thomas (1449 - 1525) yn un o uchelwyr mwyaf grymus de Cymru yn ail hanner y 15fed ganrif, a bu ganddo ran bwysig ym Mrwydr Bosworth.
Perthynai Rhys i deulu dylanwadol iawn yn Nyffryn Tywi; dywedai'r teulu eu bod yn ddisgynyddion Urien Rheged. Llwyddodd ei daid, Gruffudd ap Nicolas, i ennill grym dros ran helaeth o dde-orllewin Cymru. Roedd tad Rhys, Thomas ap Gruffudd, yn drydydd mab Gruffudd; priododd Elizabeth ferch Syr John Gruffudd, Abermarlais (ger Llandeilo), rhywbryd cyn 1446.
Erbyn i Harri Tudur lanio yn Sir Benfro yn Awst 1485 roedd Rhys mewn sefyllfa gref yn ne Cymru, a chododd fyddin o tua 2,000 o wŷr i gefnogi ymgais Harri i gipio coron Lloegr. Gwnaed ef yn farchog yn fuan wedi Brwydr Bosworth, a rhoddwyd nifer o swyddi yn ne Cymru iddo. Mae cerddi iddo gan nifer o feirdd y cyfnod, yn cynnwys Lewys Glyn Cothi, Dafydd Nanmor a Tudur Aled.
Pan fu farw Rhys yn 1525 cafodd ei gladdu mewn beddrod ym Priordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog yng Nghaerfyrddin; ar ôl diddymu'r mynachlogydd cafodd ei symud i Eglwys Sant Pedr lle mae i'w weld heddiw.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Ralph A. Griffiths, Sir Rhys ap Thomas and his Family: a study in the Wars of the Roses and Early Tudor Politics (Gwasg Prifysgol Cymru, 1993) ISBN 0-7083-1218-7
- David Rees, The Son of Prophecy: Henry Tudor's Road to Bosworth (1985; argraffiad newydd, Rhuthun, 1997)