Oddi ar Wicipedia
Corff mawr o ddŵr hawlynog a phrif ran o'r hydrosffer yw cefnfor. Gorchuddir tua 71% o wyneb y Ddaear (tua 361 miliwn km2) gan gefnfor, corff di-dor o ddŵr sydd yn gyffredin yn cael ei rannu'n nifer o brif gefnforoedd a moroedd llai. Mae dros hanner o'r arwynebedd hwn yn fwy na 3000 m o ddyfnder. Halwynedd cefnforol cyfartalog yw tua 35 rhan y fil, ac mae gan bron i holl ddŵr môr y byd halwynedd o fewn yr amrediad o 31 i 38 rhan y fil.
Cytunodd y Sefydliad Hydrograffig Rhyngwladol yn 2000 i gydnabod pum cefnfor: Cefnfor yr Arctig, Cefnfor y De, Cefnfor yr Iwerydd, Cefnfor India, a'r Cefnfor Tawel. Mae nifer o sefydliadau ac unigolion yn defnyddio modelau amrywiol.