Y Cefnfor Tawel
Oddi ar Wicipedia
Cefnforoedd y Ddaear |
---|
(Cefnfor y Byd) |
|
Y cefnfor mwyaf yn y byd yw'r Cefnfor Tawel, sy'n gorwedd rhwng Asia yn y gorllewin a De a Gogledd America yn y dwyrain. Ceir ynysoedd niferus yn y cefnfor hwn sydd yn cael eu dosbarthu fel Melanesia, Polynesia a Micronesia, dosbarthiad diwyllianol yn hytrach na dosbarthiad daearyddol. Ymysg y moroedd sydd yn perthyn i'r Cefnfor Tawel y mae Môr Bering, Môr Okhotsk, Môr Japan, Y Môr Melyn, Môr Dwyreiniol Tsieina, Môr De Tsieina, Môr Bismarck, Môr Solomon, Y Môr Cwrel a Môr Tasman.
Mae llawer o wledydd ar arfordir y cefnfor hwn: Rwsia, Japan, Taiwan, Pilipinas, Indonesia, Papua Guinea Newydd, Awstralia, Seland Newydd, Fiji, Kiribati, Ynysoedd Marshall, Taleithiau Ffederal Micronesia, Nauru, Palau, Samoa, Ynysoedd Solomon, Tonga, Tuvalu, Vanuatu, Unol Daleithiau America, Canada, México, Guatemala, El Salvador, Honduras, Nicaragua, Costa Rica, Panamá, Colombia, Ecuador, Periw a Chile.
Mae ganddo arwynebedd o 179.7 miliwn km² ac mae'n cynnwys tua 723.7 miliwn km³ o ddŵr. Mae dyfnder cyfartalog y Tefnfor Tawel oddeutu 4,028 m, ac mae'n cynnwys y lle dyfnaf yn y byd: dyffryn hollt Marianas sydd 11,034m o dan lefel cymedrig y môr. Mae 15,500 km (9,600 milltir) o bellter rhwng y Môr Bering yn y gogledd a Môr Ross yn Antarctica yn y dde, a 19,800 km (12,300 milltir) o Indonesia i glannau Colombia.
O'r Cefnfor Tawel gellir mynd i Gefnfor Arctig trwy Fôr Bering, i Gefnfor Iwerydd trwy Gamlas Panamá neu rownd Yr Horn neu yn yr haf ym 2007 roedd yn bosib heibio gogledd Canada (does dim llwybr trwy'r iâ yn arferol), ac i Gefnfor India o gwmpas Awstralia neu drwy ynysoedd de-ddwyrain Asia a Chulfor Melaka, un o'r dyfrffyrdd prysuraf yn y byd.
Rhanbarthau'r Ddaear | |||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
|
||||||||||||||||||||||||
Gweler hefyd: Cyfandiroedd y Ddaear |