Cemais (cantref yn Nyfed)
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Cemais, cantref ar Ynys Môn.
Cantref yn nheyrnasoedd Dyfed a Deheubarth yn yr Oesoedd Canol oedd Cemais. Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain y Sir Benfro bresennol gyda mynyddoedd Y Preseli yn asgwrn cefn iddo yn y de.
Ymestynnai o gyffiniau Aberteifi heddiw hyd arfordir gogledd Penfro i ffinio â chantref Pebidiog yn y gorllewin; dynodai Afon Gwaun y ffin. Yn y de rhannai ffin â chantref Daugleddau tra yn y dwyrain ffiniai â San Clêr a chwmwd annibynnol Emlyn. Fe'i ymrennid yn ddau gwmwd Uwch Nyfer ac Is Nyfer gan Afon Nyfer.
Ei ganolfan eglwysig oedd hen sefydliad Celtaidd Nanhyfer (Nyfer). Nid oes sicrwydd am leoliad ei faenor (prif lys) ond mae'n bosibl ei fod yn Nanhyfer hefyd.
Gorwedd y cantref yng nghanol gwlad y Demetae, un o lwythau Celtaidd Cymru. Lleolir y rhan fwyaf o ddigwyddiadau Cainc Gyntaf a Thrydedd Gainc y Mabinogi - Pwyll Pendefig Dyfed a Manawydan fab Llŷr - yn y cantref.