Cemais (cantref ym Môn)
Oddi ar Wicipedia

Eglwys Llanbadrig, cwmwd Talybolion, cantref Cemais
- Am y pentref ym Môn, gweler Cemaes. Ceir cantref arall o'r un enw yn Nyfed: gweler Cemais (cantref yn Nyfed)
Un o dri chantref Ynys Môn yn yr Oesoedd Canol oedd Cemais. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin yr ynys.
Ymrennir y cantref yn ddau gwmwd, sef Talybolion yn y gorllewin a Thwrcelyn yn y dwyrain. Roedd y cantref yn ffinio â chwmwd Llifon yng nghantref Aberffraw yn y de-orllewin a chantref Rhosyr yn y de. Lleolid prif lys y cantref yng Nghemaes, cantref Twrcelyn. Fel gweddill yr ynys, roedd Cemais yn rhan o deyrnas Gwynedd.