Cenedl-wladwriaeth
Oddi ar Wicipedia
Math o wladwriaeth sy'n bodoli i ddarparu tiriogaeth sofranaidd ar gyfer cenedl yw cenedl-wladwriaeth. Mae'r wladwriaeth yn fro wleidyddol a daearwleidyddol, a'r genedl yn fro ddiwylliannol ac/neu ethnig; awgrymir y cysyniad o'r genedl-wladwriaeth eu bod yn cyd-ddigwydd yn ddaearyddol, yn wahanol i fathau eraill o'r wladwriaeth a fodolont ers talwm. Ar waith, bydd dinasyddion cenedl-wladwriaeth yn rhannu iaith, diwylliant, a dull o fyw tebyg. Bydd byd o genedl-wladwriaethau yn gweithredu'r hawl i annibyniaeth ac ymreolaeth ar gyfer pob genedl, cysyniad craidd yn ideoleg cenedlaetholdeb.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.