Diwylliant
Oddi ar Wicipedia
Yng nghymdeithaseg ac anthropoleg, diwylliant yw credoau, iaith, ymddygiadau, a holl ffordd o fyw grŵp penodol o bobl mewn cyfnod penodol o amser. Mae'r cysyniad o ddiwylliant yn cynnwys traddodiadau ac arferion, crefydd a chred, seremonïau, gwyliau a dathliadau, technoleg a dyfeisiadau, a chelfyddydau.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.