Cenedlaetholdeb Albanaidd
Oddi ar Wicipedia
Mae Cenedlaetholdeb Albanaidd yn dueddiad gwleidyddol o blaid annibyniaeth neu ymreolaeth wleidyddol yn yr Alban. Mae agweddau gwleidyddol a diwylliannol i'r ideoleg hon. Unwyd yr Alban â Lloegr (i greu'r Deyrnas Unedig) yn dilyn Deddf Uno 1707. Ni chymhathwyd rhai sefydliadau, fel y gyfraith, yr eglwys, ac addysg, ac mae hyn wedi helpu cadw teimlad o hunaniaeth ddiwylliannol a chenedligrwydd yn y wlad sy'n parhau heddiw.
Yn wahanol i genedlaetholdeb yng Nghymru, cymharol wan ydyw'r bwyslais ar iaith yng nghenedlaetholdeb yr Alban.
Mae barn yr Albanwyr am annibyniaeth wedi amrywio'n sylweddol ers y Ddeddf Uno. Darganfuodd arolwg gan ICM yn Nhachwedd 2006 bod 51% o'r Albanwyr o blaid annibyniaeth.[1]
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
[golygu] Senedd yr Alban
Pan ddaeth Llafur Newydd yn llywodraeth Prydain ym Mai 1997, daeth ymreolaeth i'r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Llundain yn rhan o'r agenda. Cynhaliwyd refferendwm ym Medi'r un flwyddyn am sefydlu senedd i'r Alban, a phleidleisiodd 75% o blaid. Pasiwyd Deddf yr Alban yn 1998 i greu Senedd yr Alban, gyda phwerau dros faterion megis amaeth, addysg, yr amgylchedd, iechyd, y gyfraith, llywodraeth leol, cludiant cyhoeddus, a thwristiaeth. Llafur oedd y blaid â'r mwyaf o seddi yn y senedd tan etholiad mis Mai 2007 pan ddaeth Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP) yn blaid fwyaf.