Cerdd Dant
Oddi ar Wicipedia
Math o gerddoriaeth sy'n unigryw i Gymru yw Cerdd dant (weithiau Cerdd Dannau) neu canu penillion.
Yn yr Oesoedd Canol roedd Cerdd Dant yn sefyll ochr yn ochr â Cherdd Dafod ac yn cynrychioli crefft y cerddor o'i gwahaniaethu oddi wrth crefft y bardd. Roeddyn yn perthyn yn agos i'w gilydd. Credir fod y beirdd - neu'r datgeiniaid - yn arfer datgan eu cerddi i gyfeiliant cerddorol, ond mae'r manylion yn ansicr.
Heddiw, mae Cerdd Dant yn golygu bod canwr, neu grwp o ganwyr yn canu barddoniaeth mewn gwrthbwynt ag alaw neu gainc a chwaraeir ar y delyn. Mae llawer o gystadleuthau cerdd dant mewn eisteddfodau, a chynhelir yr Ŵyl Cerdd Dant yn flynyddol.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Aled Lloyd Davies, Hud a Hanes Cerdd Dannau (1984)