Eisteddfod
Oddi ar Wicipedia
Cystadleuaeth rhwng adroddwyr, llefarwyr, llenorion, cantorion a cherddorion yw'r Eisteddfod fodern yn bennaf. Cynhelir amryw mawr a bach ledled Cymru ac hefyd ym Mhatagonia. Y rhai pwysicaf yw Yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Mae'r Orsedd yn gysylltiedig â'r Eisteddfod yn arbennig yr Eisteddfod Genedlaethol
[golygu] Eisteddfodau cynnar
Y cofnod cyntaf sydd gennym am eisteddfod yw hwnnw ym Mrut y Tywysogion am yr un a gynhaliwyd gan Yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth yn 1176 yn Aberteifi (gweler Eisteddfod Aberteifi, 1176).
Yr eisteddfodau nesaf sy'n hysbys yw Eisteddfod Caerfyrddin, 1451 ac Eisteddfodau Caerwys (yn 1523 a 1567).
[golygu] Cysylltiadau allanol
Hanes yr eisteddfod yn y 19eg ganrif ar wefan Amgueddfa Werin Cymru
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.