Chandra Wickramasinghe
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Athro Nalin Chandra Wickramasinghe (ganwyd 20 Ionawr, 1939) yn seryddwr a mathemategydd, a aned yn Colombo, Sri Lanka.
Ers dechrau'r 1970au mae Wickramasinghe wedi byw a gweithio yng Nghymru fel athro Mathemateg Gymhwysedig a Seryddiaeth yn Prifysgol Caerdydd.
Daeth i amlygrwydd yn y 1960au pan ddatblygodd ddamcaniaeth ddadleuol Panspermia ar y cŷd a'r seryddwr adnabyddus Fred Hoyle (awdwr y Ddamcaniaeth Cyflwr Cyson). Ei brif feysydd ymchwil ers rhai blynyddoedd yw'r defnydd o seryddiaeth isgoch i astudio mater rhyngseryddol.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.