Charles Messier
Oddi ar Wicipedia
Seryddwr o Ffrancwr oedd Charles Messier (26 Mehefin 1730 - 12 Ebrill 1817).
Yn y flwyddyn 1760 dechreuodd wneud rhestr o wrthrychal seryddol y tybiai eu bod yn nebualae. Y canlyniad oedd Catalog Messier, sy'n rhestru 109 o wrthrychau disglair anserennol yn y gofod, a gyhoeddwyd yn 1784-86. Rhoddwyd i'r gwrthrychau hynny rif a ragflaenir gan y llythyren M, er enghraifft M101 neu M39 (galaeth Andromeda). Gwyddom heddiw fod y mwyafrif o wrthrychau Messier yn alaethau a chlystyrau serennol ac mai dim ond canran isel sy'n nebulae.