Chwarel Croesor
Oddi ar Wicipedia
Chwarel lechi gerllaw Croesor yng Ngwynedd oedd Chwarel Croesor. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o chwareli Cymru, roedd bron y cyfan o’r gweithfeydd dan y ddaear. Ar un adeg roedd yn cynhyrchu 11,000 tunnell o lechi yn flynyddol.
Agorwyd y chwarel yn 1846 a bu’n gweithio hyd 1878. Yn 1864 adeiladwyd inclen i gysylltu a Tramffordd Croesor, i gario’r llechi i borthladd Porthmadog. Bu ar gau am gyfnod, ond ail-agorodd yn 1895. Dan reolaeth Moses Kellow gwelwyd nifer o ddatblygiadau pwysig yn hanes y diwydiant llechi yng Nghymru. Yma y defnyddiwyd trydan i weithio peiriannau mewn chwarel am y tro yn 1901; cynhyrchid y trydan trwy rym dŵr o gronfa Llyn Cwm y Foel. Roedd y trydan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gyrru peiriannau'r chwarel yn ogystal ag ar gyfer goleuo. Roedd Kellow hefyd yn gyfrifol am ddyfeisio'r "Kellow Drill", oedd yn defnyddio grym dŵr i dyllu'r graig ar gyfer ffrwydro. Caeodd y chwarel yn derfynol yn 1930.
Yn y 1960au roedd y chwarel yn eiddo i gwmni lleol Cookes Explosive, oedd yn defnyddio’r siamberi tanddaearol i gadw deunydd ffrwydrol. Prynwyd y chwarel gan Gwmni Llechi Ffestiniog yn nechrau’r 1970au, gyda’r bwriad o’i hail-agor. Fodd bynnag, ni lwyddwyd i gael caniatad cynllunio, ac erbyn diwedd y 1970au roedd y rhan fwyaf o’r offer wedi ei drosglwyddo i Chwarel yr Oakeley, oedd yn eiddo i’r un cwmni.
Mae twnel yn cysylltu’r chwarel yna a Chwarel Rhosydd .