Porthmadog
Oddi ar Wicipedia
Porthmadog Gwynedd |
|
Tref yng Ngwynedd yw Porthmadog sydd ar aber Afon Glaslyn. Mae dros 65% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Datblygodd Porthmadog ar ôl i W. A. Madocks, Aelod Seneddol dros Foston, Swydd Lincoln, yn Lloegr, adeiladu'r morglawdd a elwir y Cob er mwyn adennill tir amaethyddol o'r Traeth Mawr, a orchuddid gan y môr yn yr hen ddyddiau pan fyddai'r llanw i mewn. Datblygodd Porthmadog yn borthladd pwysig i allforio llechi o'r chwareli ym Mlaenau Ffestiniog, ac fe adeiladwyd y rheilffordd fyd-enwog, Rheilffordd Ffestiniog i gario'r llechi o Ffestiniog i Borthmadog. Am ddegawdau, bu Porthmadog yn bwysig iawn yn niwydiant llechi'r byd, ond gyda'r dirywiad yn y diwydiant llechi collodd y porthladd ei bwysigrwydd.
Yr oedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig yn y dref hefyd. Efallai mai'r mwyaf enwog o longau Porthmadog oedd y sgwneri tri mast a adeiladwyd rhwng 1891 a 1913. Adnabyddid y rhain fel y Western Ocean Yachts, a dywedir eu bod ymysg y llongau hwylio prydferthaf a adeiladwyd erioed. Yn 1913 lansiwyd y Gestiana, y llong olaf i'w hadeiladu yma.
[golygu] Y dref heddiw
Bellach, tref dwristaidd yw hi. Fe'i gelwir yn aml yn "Fynedfa i Eryri" oherwydd ei safle daearyddol. Mae Rheilffordd Ffestiniog sy'n cario ymwelwyr o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog, yn boblogaidd iawn.
[golygu] Enwogion
- Eliseus Williams (Eifion Wyn), bardd; cafodd ei eni yn Mhorth ar yr 2 Mai, 1867.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhorthmadog ym 1987. Am wybodaeth bellach gweler:
[golygu] Atyniadau eraill
Mae'r pentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog.
[golygu] Gweler hefyd