Chwarel y Rhosydd
Oddi ar Wicipedia
Chwarel lechi yn ardal Blaenau Ffestiniog oedd Chwarel y Rhosydd. Saif i'r gorllewin o Flaenau Ffestiniog ar dir uchel, heb fod ymhell o Chwarel Croesor. Mae twnel yn cysylltu'r chwarel yma a Chwarel Croesor.
Dechreuwyd gweithio'r chwarel ar raddfa fechan yn y 1830au. Dechrewyd gweithio tanddaearol yn y 1850au, ac erbyn 1883 roedd yn un o'r chwareli tanddaearol mwyaf yng Nghymru tu allan i Flaenau Ffestiniog ei hun, gyda 170 o siamberi. Cynhyrchwyd 5,616 tunnell o lechi y flwyddyn honno.
Yn y blynyddoedd cynnar, cludid y llechi ar gefn ceffyl heibio'r Moelwyn a Chwm Maesgwm i gyrraedd Rheilffordd Ffestiniog. Yn 1864 cysylltwyd y chwarel a Thramffordd Croesor.
Daeth cynhyrchu llechi i ben yn gynnar yn y 1930au, er na roddwyd y gorau i'r chwarel yn derfynol hyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Prynwyd y chwarel gan McAlpines yn y 1990au ond ni ail-agorwyd hi.