Cilymaenllwyd
Oddi ar Wicipedia
Cymuned a phlwyf yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin yw Cilymaenllwyd. Ymestynna'r gymuned oddeutu'r briffordd A478 a rhannau uchaf Dyffryn Taf, ac mae ger y ffîn a Sir Benfro. Mae'n cynnwys pentrefi Efail-wen a Login.
Ceir nifer o henebion diddorol yn y gymuned, yn cynnwys cylch meini Meini Gŵyr. Yn yr ardal yma y dechreuodd Terfysgoedd Rebeca. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 724, gyda 66.29% a rhywfaint o wybodaeth o'r Gymraeg.