Efail-wen
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin yw Efail-wen, weithiau Efailwen. Saif ar y briffordd A478, tua hanner y ffordd rhwng Arberth a Chrymych, yng nghymuned Cilymaenllwyd ac yn agos i'r ffîn a Sir Benfro.
Yn Efail-wen y dechreuodd Helyntion Beca, gwrthryfel gwerinol yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y ffyrdd tyrpeg. Trawodd Beca gyntaf yn Efail-wen ar y 13 Mai 1839, gan falu'r dollborth yno. Fe wnaethpwyd yr un peth eto ar y 6 Mehefin yn yr un flwyddyn ac eto ar yr 17 Gorffennaf. Mae ysgol y pentref a chaffi wedi eu henwi ar ôl Beca.