Cleopatra
Oddi ar Wicipedia
- Mae hon yn erthygl am y frenhines adnabyddus o'r Hen Aifft. Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Cleopatra (gwahaniaethu).
Cleopatra Filopator Nea Thea, Cleopatra VII, mewn Groeg: Κλεοπάτρα Φιλοπάτωρ, (69 CC - 30 CC) oedd brenhines olaf yr Aifft o'r olaf o dŷ brenhinol y Ptolemiaid, a sefydlwyd gan Ptolemi I Sóter, un o gadfridogion Alecsander Fawr.
Roedd yn ferch i Cleopatra V Trifena a Ptolemi XII Auletes, a daeth yn frenhines yn 51 C.C., yn 17 oed, ar y cyd a'i brawd (a ddaeth hefyd yn ŵr iddi) Ptolemi XIII, oedd yn 12 oed ar y pryd. Teulu Groegaidd oedd y Ptolemiaid, a dywedir mai Cleopatra oedd y gyntaf o'i llinach i fedru Eiffteg.
Wedi teyrnasu am dair blynedd, gyrrodd Ptolemi ei chwaer o'r orsedd ar gyngor Pothinus ac Achillas, ac alltudiwyd hi i Syria. Ceisiodd Cleopatra adennill yr orsedd, ond ni lwyddodd nes i Iŵl Cesar gyrraedd i ddinas Alexandria yn 48 C.C.. Flwyddyn yn ddiweddarach bu Ptolemi farw yn ymladd yn erbyn milwyr Cesar, a daeth Cleopatra yn frenhines. Priododd a brawd arall, 12 oed ar y pryd, a ddaeth yn Ptolemi XIV. Yn yr ymladd llosgwyd rhan fawr o Alexandria, yn cynnwys y llyfrgell enwog.
Pan ddychwelodd Cesar i Rufain, dilynodd Cleopatra ef yno, a bu'n byw gydag ef yno. Ganwyd mab iddynt, a enwyd yn Cesarion. Yn 44 C.C. llofruddiwyd Cesar, a dychwelodd Cleopatra a'i mab i'r Aifft. Dilynwyd llofruddiaeth Cesar gan ryfel cartref, gyda Marcus Antonius yn arwain pleidwyr Cesar yn erbyn y gweriniaethwyr oedd wedi bod a rhan yn ei lofruddio. Gofynnodd Antonius am gymorth gan Cleopatra, ond gwrthododd hi ymyrryd. Teithiodd Antonius i'r Aifft i'w chyfarfod yn 41 C.C., a syrthiodd y ddau mewn cariad. Penderfynodd Antonius aros yn yr Aifft am gyfnod, nes iddo gael ei orfodi i ddychwelyd i Rufain. Yn fuan wedyn ganwyd dau efaill i Cleopatra, Cleopatra Selene ac Alecsander Helios. Yn 36 C.C, teithiodd Antonius i'r dwyrain i ymladd yn erbyn y Parthiaid. Aeth Cleopatra gydag ef, a ganwyd eu trydydd plentyn, Ptolemi Filadelfos. Bu'r ymgyrch yn llwyddiant mawr, a dychwelodd y ddau i Alexandria.
Yr oedd perthynas Marcus Antonius gydag Octavianus (a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach dan yr enw Augustus), ei frawd-yng-nghyfraith, wedi dirywio erbyn hyn, ac yn 32 C.C. aeth yn rhyfel rhwng Octavianus ac Antonius a Cleopatra. Ym Mrwydr Actium yn 31 c.C. gorchfygwyd llynges Cleopatra gan Octavianus, a lladdodd hi a Marcus Antonius eu hunain yn hytrach na chael eu cymeryd i Rufain fel carcharorion.