Coleg Santes Catrin, Rhydychen
Oddi ar Wicipedia
Un o golegau Prifysgol Rhydychen yw Coleg Santes Catrin, Rhydychen neu Coleg St Catherine, Rhydychen. Mae gwreiddiau'r coleg yn dyddio i 1868, pryd y'i sefydlwyd fel delegacy (mudiad o dan rheolaeth y brifysgol) i ddarparu addysg i'r rhai na allasant fforddio treuliau dod yn aelod llawn o'r brifysgol. Ym 1874 ffurfiwyd y St. Catharine's Club neu'r St. Catherine's Club fel hwb i weithgareddau cymdeithasol y myfyrwyr. Cydnabuwyd y gymdeithas gan y Brifysgol ym 1931 fel y St. Catherine's Society. Penodwyd yr hanesydd Alan Bullock yn bennaeth (censor) i'r gymdeithas ym 1952. Erbyn hyn, roedd wedi tyfu i fod yn debycach i golegau'r brifysgol, ac ym 1956 penderfynwyd troi'r gymdeithas yn goleg. Erbyn 1962 roedd yr arian angenrheidiol wedi cael ei gasglu ynghyd, ac agorodd y coleg newydd ei ddrysau ym mis Hydref o'r un flwyddyn ar safle ar Manor Road, ar ochr ddwyreiniol canol y ddinas. Dyluniwyd adeiladau newydd y coleg gan y pensaer Danaidd o fri, Arne Jacobsen, mewn arddull modernaidd trawiadol. Yn y blynyddoedd cynnar dim ond dynion a gafodd fynychu'r coleg, ond ym 1974, roedd y coleg ymysg y grŵp cyntaf i dderbyn menywod. Erbyn 1978 roedd wedi tyfu i fod y fwyaf o golegau'r brifysgol. Ychwanegwyd adeiladau newydd ym 2005–2006 yn dilyn cynlluniau gan Stephen Hodder.
[golygu] Aelodau enwog
- Euros Bowen, bardd
- Joseph Heller, awdur
- Peter Mandelson, gwleidydd
- Matthew Pinsent, rhwyfwr
- Jeanette Winterson, awdures
Colegau Prifysgol Rhydychen
|
||
---|---|---|
Balliol | Brasenose | Y Brifysgol | Corpus Christi | Eglwys Crist | Exeter | Y Drindod | Y Frenhines | Green | Harris Manchester | Hertford | Yr Holl Eneidiau | Yr Iesu | Kellogg | Keble | Linacre | Lincoln | Magdalen | Mansfield | Merton | Neuadd yr Arglwyddes Margaret | Neuadd St Edmwnd | Y Coleg Newydd | Nuffield | Oriel | Penfro | Regent's Park | St Anne | St Antony | Santes Catrin | St Cross | St Hilda | St Hugh | Sant Ioan | St Pedr | Somerville | Templeton | Wadham | Wolfson | Worcester |
||
Neuaddau Prifysgol Rhydychen
|
||
Blackfriars | Greyfriars | Neuadd Campion | Neuadd St Benet | Neuadd Wycliffe | Tŷ San Steffan |