Corea
Oddi ar Wicipedia
Gwlad hanesyddol a thiriogaeth ddaearyddol a diwylliannol yn Nwyrain Asia, i'r dwyrain o China ac i'r gorllewin o Japan, yw Corea (neu Korea). Ers y 1950au fe'i rhennir yn ddwy wladwriaeth, sef Gweriniaeth De Corea a Gogledd Korea. Gwlad Gomiwnyddol yw Gogledd Korea a rhwng Mehefin 1950 a Gorffennaf 1953 bu rhyfel rhwng y ddwy wlad fel rhan o'r Rhyfel Oer.
[golygu] Hanes Corea
- Prif erthygl: Hanes Corea.
Meddiannodd Siapan â Corea o 1910 hyd at 1945 pan ymroddodd Siapan tua diwedd yr ail ryfel byd. Derbynnwyd yr ymroddiad gan yr Undeb Sofietaidd yn gogledd y wlad, a gan yr UDA yn y de. Wrth i'r llywodraeth Sofietaidd a llywodraeth yr UDA methu cytuno ar dyfodol y wlad, Syngman Rhee ddaeth yn arweinydd y De cyfalfydd a'r Capten Kim Il Sung yn arweinydd y Gogledd sosialaidd.
[golygu] Rhyfel Corea
- Prif erthygl: Rhyfel Corea.
Gyda'r bwriad o ail uno'r wlad o dan ei arweiniaeth ymysododd lluoedd Kim Il Sung ar y De yn 1950. Dechreuodd Rhyfel Corea gyda goresgyniad Inchon ar 25ain o Fehefin. Daeth Prydain a'r Unol Daleithiau i mewn yn filwrol ar ochr y De tra bu'r Gogledd yn mwynhau cefnogaeth yr Undeb Sofietaidd dan Stalin a Gweriniaeth Pobl China dan Mao Zedong. Arwyddwyd 'ceasefire' rhwng y Gogledd a'r UDA ar rhan yr CU yn Panmunjeom yn 1953 a chrewyd ffin cadoediad yn ardal anfilwrol (DMZ - Demilitarised Zone) hyd Lledred 38 rhwng y De a'r Gogledd, tua'r un lle a'r ffin cyn y rhyfel. Yn dechnegol, mae'r ddwy wlad yn dal mewn rhyfel.
[golygu] Heddiw
Mae Gweriniaeth De Corea (prifddinas: Seoul) dan ei harlywydd Roo Moo Hyun yn wlad ddemocrataidd heddiw, ond mae'r Gogledd yn parhau i fod yn wlad Stalinaidd ar linellau'r hen Undeb Sofietaidd dan ei harweinydd Kim Jong-il a'i lywodraeth yn Pyongyang.
Afghanistan · Armenia · Azerbaijan1 · Bahrain · Bangladesh · Bhutan · Brunei · Cambodia · Corea (Gogledd Corea · De Corea) · Cyprus · Dwyrain Timor · Emiradau Arabaidd Unedig · Fiet Nam · Georgia1 · Gwlad Iorddonen · India · Indonesia · Irac · Iran · Israel (gweler hefyd tiriogaethau Palesteinaidd) · Japan · Kazakhstan1 · Kuwait · Kyrgyzstan · Laos · Libanus · Malaysia · Maldives · Mongolia · Myanmar · Nepal · Oman · Pakistan · Pilipinas · Qatar · Rwsia1 · Saudi Arabia · Singapore · Sri Lanka · Syria · Tajikistan · Gwlad Thai · Tsieina (Gweriniaeth Pobl China (Hong Kong • Macau) · Gweriniaeth Tsieina (Taiwan)) · Twrci1 · Turkmenistan · Uzbekistan · Yemen