Craig yr Aderyn
Oddi ar Wicipedia
Mae Craig yr Aderyn yn codi o lefel y môr i uchder o dros 250 medr ar lethrau deheuol Dyffryn Dysynni, ger Llanfihangel-y-pennant.[1] Mae'r graig yn fan nythu i nifer fawr o adar megis y Bilidowcar.
Mae adfeilion Castell y Bere, a godwyd gan dywysogion Gwynedd yn y 13eg ganrif, ger llaw.