Dyffryn Dysynni
Oddi ar Wicipedia
Dyffryn eang yn ne Gwynedd yw Dyffryn Dysynni. Rhed afon Dysynni drwyddo. Yn yr Oesoedd Canol roedd y dyffryn yn rhan o gwmwd Ystumanner, cantref Meirionnydd. Rhed y dyffryn o fryniau Cadair Idris i lawr i Fae Ceredigion.
Lleolir Castell y Bere yn rhan uchaf y dyffryn, ym mhlwyf hanesyddol Llanfihangel-y-pennant, . Mae'n sefyll ar grug neu fryncyn isel ar lan ddeheuol Afon Cader, ffrwd sy'n aberu yn Afon Dysynni hanner milltir i'r gorllewin o'r castell. Mae hen lwybr dros fwlch Nant-yr-Eira ac un arall ar lan Afon Dysynni yn ei gysylltu ag Abergynolwyn i'r dwyrain.
Ger yr arfordir ceir pentrefi Llanegryn ac, ar ymyl y dyffryn, Thywyn. Nepell o Lanegryn, ar lan ogleddol y dyffryn, ceir plasdy Peniarth, lle diogelwyd rhai o'r llawysgrifau Cymreig pwysicaf am ganrifoedd. Roedd gwylfa ar ben Craig yr Aderyn, hanner ffordd i lawr y dyffryn, i amddiffyn Castell y Bere.
Oddi yma i'r Bala y cerddodd Mary Jones i mofyn Beibl gan Thomas Charles yn 1800. Ganed y geiriadurwr a golygydd William Owen Pughe ym mhlwyf Llanfihangel y Pennant ar y 7 Awst, 1759.