Culfor Gibraltar
Oddi ar Wicipedia
Culfor Gibraltar (Arabeg: مضيق جبل طارق, Sbaeneg: Estrecho de Gibraltar, Saesneg:Strait of Gibraltar) yw'r culfor sy'n cysylltu Môr y Canoldir â Môr Iwerydd, ac yn gwahanu Sbaen a Morocco. Daw'r enw o benthyn Gibraltar, sydd yn ei dro yn deillio o'r Arabeg Jebel Tariq (جبل طارق), sy'n golygu "mynydd Tariq". "Tarig" yw'r cadfridog Berber Tariq ibn-Ziyad a oedd yn arwain y fyddin Islamaidd a goncrodd ran helaeth o Sbaen.
Mae'r culfor yn 8 milltir o led yn y man culaf, a'i ddyfnder yn amrywio rhwng 300 a 900 medr. Defnyddiai'r awduron clasurol yr enw "Pileri Heracles" am y creigiau bob ochr iddo, Gibraltar ar un ochr ac un o nifer o greigiau ar ochr Morocco. Ym mis Rhagfyr 2003 cytunodd Sbaen a Morocco i edrych i mewn i'r posibilrwydd o adeiladu twnel rheilffordd o dan y culfor