Gibraltar
Oddi ar Wicipedia
Tiriogaeth sy'n perthyn i'r Deyrnas Unedig. Fe'i lleolir yn ne Penrhyn Iberia. Mae'n ffinio â Sbaen i'r gogledd ac mae Culfor Gibraltar i'r de. Mae Gibraltar yn bwysig iawn i Luoedd Arfog Prydain a cheir safle môrlu yno.
[golygu] Yr enw
Daw enw'r diriogaeth o'r enw Arabeg gwreiddiol Jabal Ţāriq (جبل طارق), sef "mynydd Tariq". Cyfeiria at y cadfridog Berber Umayyad Cadfridog Tariq ibn-Ziyad, a arweiniodd oresgyniad rhan o Iberia yn 711 gan filwyr o'r Maghreb. Cyn hynny fe'i hadnabuwyd fel Mons Calpe, un o Bileri Hercules. Heddiw gelwir Gibraltar yn "Gib" neu "y Graig" ar lafar gwlad.
[golygu] Sofraniaeth
Un o brif faterion llosg yn y berthynas rhwng Prydain a Sbaen yw sofraniaeth Gibraltar. Mae Sbaen yn gofyn am ddychwelyd yr ardal i'w gwlad wedi i sofraniaeth Sbaen drosti gael ei hildio yn 1713. Fodd bynnag, mae rhan fwyaf trigolion Gibraltar wedi gwrthod hyn.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.