Cwm Idwal
Oddi ar Wicipedia
Cwm yn Eryri yw Cwm Idwal; mae'r ffin rhwng Gwynedd a sir Conwy yn mynd trwy'r cwm.
Saif y cwm ychydig i'r de-orllewin o Lyn Ogwen a phriffordd yr A5. Ynghanol y cwm mae Llyn Idwal, ac amgylchynir ef gan nifer o fynyddoedd, yn enwedig y Glyder Fawr ac Y Garn. Mae'r afon fechan sy'n llifo o'r llyn yn llifo i mewn i Afon Ogwen.
Mae Cwm Idwal yn gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid, cerddwyr a dringwyr mynyddoedd, ac mae llwybr yn arwain o gwmpas y llyn. Ym mhen draw y cwm mae clogwyni serth Clogwyn y Geifr, gyda'r hollt enwog a elwir y Twll Du. Nodweddir y cwm gan olion rhewlif o Oes yr Iâ, sy'n ei wneud o ddiddordeb daearegol mawr.
Ceir amrywiaeth ddiddorol o blanhigion Arctig-alpaidd ar y clogwyni o gwmpas Cwm Idwal, yn cynnwys Lili'r Wyddfa (Lloydia serotina).
[golygu] Dolenni allannol
Llwybr Cwm Idwal, o safle we Parc Cenedlaethol Eryri