Daeareg
Oddi ar Wicipedia
Gwyddorau daear | |
Bioamrywiaeth |
Astudiaeth hanes y ddaear yw Daeareg neu Geoleg (Groeg: γη- sef ge-, "y ddaear" a λογος, sef logos, "gwyddoniaeth"). Mae'n cynnwys astudiaeth o gerrig a chramen y Ddaear. Mae hanes y ddaear yn cael ei rannu'n Gyfnodau Daearegol.
[golygu] Daeareg Cymru
Yn ystod y Cyfnod Proterosöig, tua 520 miliwn o flynyddoedd yn ôl, nid oedd ynysoedd Prydain fel ag y maent heddiw. Yn hytrach, roedd yr Alban yn ran o'r cyfandir Laurentia a gweddill y tir yn ran o'r cyfandir Gondwana.
Ganwyd y cyfandir Afalonia yn y Cyfnod Ordofigaidd pan oedd y cyfandiroedd yn dal i symud trwy weithgaredd tectonig, a ganwyd ynysoedd Prydain trwy wrthdrawiad rhwng cyfandiroedd. O ganlyniad i hyn cafwyd ffrwydriadau folcanig yng Nghymru. Mae'n bosib gweld olion y llosgfynyddoedd hyd at heddiw, er engraifft ar Robell Fawr. Roedd lafa yn gorchuddio rhan eang o Gymru ac Ardal y Llynnoedd. Yr adeg hon hefyd y ffurfiwyd llechfaen Cymru.
Yn ystod y Cyfnod Silwraidd ffurfiwyd mynyddoedd yr Alban (Orogenesis). Yng Nghymru, roedd y ffrwydriadau folcanic yn parhau. Gwelir lafa a lludw folcanig o'r cyfnod hwn yn Sir Benfro.
Roedd gwrthdrawiad cyfandiroedd a'r gweithgarwch folcanig o achos symudiadau'r platiau yn parhau yn ystod y Cyfnod Defonaidd. Bu i lefel y moroedd newid lawer gwaith a thrwy hyn ymgasglodd gwaddodion, gan ffurfio yr Hen Dywodfaen Coch.
Yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd roedd Prydain ger y cyhydedd a'r môr yn gorchuddio'r tir. Ffurfiwyd calchfaen a glo. Roedd holl gyfandiroedd y ddaear yn un cyfandir mawr, Pangaea, tua'r Cyfnod Carbonifferaidd ac roedd Prydain yng nghanol Panagea. Yn ystod hinsawdd sych y cyfnod ffurfiwyd y Dywodfaen Coch Newydd.
Yn ystod y Cyfnodau Permaidd a Thriasaidd symudodd y Deyrnas Unedig i'r gogledd a roedd y Môr Thetys yn gorchuddio'r tir. Yn ystod y Cyfnod Jwrasig holltwyd Pangea gan adael y Deyrnas Unedig ar Gyfandir Ewrasia.
Ni bu newid mawr iawn ym Mhrydain yn ystod Oes yr Iâ yn y Cyfnod Cwartaidd. Ffurfiwyd rhewlifau o amgylch y Môr Iwerddon a roedden nhw yn gorchuddio rhan fwyaf y tir.
[golygu] Cadwraeth
Mae'r Cyngor Cadwraeth Natur yn dewis safleodd pwysig er mwyn eu gwarchod ac yn eu rhestru ar yr Arolwg Cadwraeth Daearegol (ACD). Mae dau fath o safle sef Safle Daearegol Rhanbarthol Pwysig (SDRhP) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDGA).