Cwm Prysor
Oddi ar Wicipedia
Cwm mynyddig ym Meirionnydd, Gwynedd, yw Cwm Prysor. Gorwedd i'r dwyrain o Drawsfynydd.
Mae union ystyr y gair prysor yn ansicr, ond mae'n debygol ei fod yn gyfuniad o'r gair prysg/pres, sef "llwyn" neu "mangoed", a'r terfyniad -os sy'n dynodi amledd. Gellid cynnig fod yr enw yn cyfeirio at y prysgwydd a dyfai yn y cwm.[1]
Llifa Afon Prysor ar hyd y cwm, o'i tharddle yn Llyn Conglog-mawr ar ymyl y Migneint.
Hanner ffordd i lawr y cwm, ger Craig yr Aderyn, ceir adfeilion Castell Prysor.
Ar un adeg bu Cwm Prysor yn lle digon diarffordd ond heddiw mae'r ffordd A4212 rhwng Trawsfynydd a'r Bala yn rhedeg trwyddo.
Brodor o Gwm Prysor yw'r awdur a'r cerddor Dewi Prysor.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ 'Enwau lleoedd' yn Atlas Meirionnydd (Y Bala, 1975).