Cymdeithas Bob Owen
Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas ar gyfer casglwyr a charwyr llyfrau Cymreig yw Cymdeithas Bob Owen. Fe'i sefydlwyd yn 1976. Cafodd y gymdeithas ei henwi ar ôl yr hynafiaethydd a llyfrbryf enwog Bob Owen, Croesor.
Mae'r gymdeithas yn trefnu darlithoedd blynyddol a gynhelir fel rheol ym Mlas y Bwlch, ger Maentwrog. Ei phrif waith fodd bynnag yw cyhoeddi'r cylchgrawn Y Casglwr sy'n llawn gwybodaeth am lyfrau prin a diddorol yn y Gymraeg neu'n ymwneud â Chymru.