Maentwrog
Oddi ar Wicipedia
Mae Maentwrog yn bentref yng Ngwynedd, lle mae'r ffordd A496 o Harlech i Flaenau Ffestiniog yn croesi'r A487 o Borthmadog. Saif ar Afon Dwyryd ac mae'r Moelwyn Bach i'r gogledd a Llyn Trawsfynydd i'r de. Maentwrog oedd y lle uchaf y gellid ei gyrraedd ar hyd Afon Dwyryd mewn cychod o faint sylweddol.
Daw'r enw o chwedl am sant Twrog yn taflu carreg anferth o ben y Moelwynion i ddinistrio allor baganaidd. Mae'r garreg i'w gweld yng ngongl Eglwys Sant Twrog. Mae cyfeiriad at Maentwrog yn y bedwaredd gainc o'r Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy lle'r adroddir fod Pryderi wedi ei gladdu yma ar ôl ei ladd yn ymladd â Gwydion gerllaw. Roedd ffordd Rufeinig Sarn Helen yn mynd heibio'r pentref, gan groesi'r afon yn Felinrhyd.
Mae tystiolaeth am goed yn cael ei allforio o 1739, ond daeth Maentwrog yn bwysig gyda thŵf y diwydiant llechi o'r 1760au ymlaen. Hyd nes adeiladwyd Rheilffordd Ffestiniog yr oedd y llechi'n cael eu cario yma a'u llwytho i gychod oedd yn mynd a hwy i lawr yr afon i'w llwytho i longau. Tyfodd Maentwrog yn gyflym yn y 19eg ganrif. Gerllaw'r pentref mae Plas Tan y Bwlch, unwaith yn gartref y teulu Oakley a fu'n flaenllaw yn natblygiad y diwydiant llechi yn ardal Blaenau Ffestiniog. Teulu Oakley oedd yn gyfrofol am ddatblugu a chynllunio'r penref. Mae'r plas yn awr yn Ganolfan Astudio yn perthyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae gorsaf Tan-y-Bwlch ar Reilffordd Ffestiniog gerllaw hefyd. Mae dwy dafarn yma, The Grapes o'r 17eg ganrif yn y pentref a'r Oakley Arms ger Plas Tan y Bwlch.
Agorwyd gorsaf drydan Maentwrog yn 1928, ac mae'n parhau i gynhyrchu trydan, gan ddefnyddio dŵr o Llyn Trawsfynydd.