Cookie Policy Terms and Conditions Cynghrair Celtaidd - Wicipedia

Cynghrair Celtaidd

Oddi ar Wicipedia

Y Gynghrair Celtaidd
Logo'r Gynghrair Magners
Chwaraeon Rygbi'r undeb
Sefydlwyd 2001
Nifer o Dîmau 10
Gwledydd Yr Alban
Cymru
Iwerddon
Pencampwyr presennol Gweilch
Gwefan Swyddogol www.magnersleague.com

Y Cynghrair Celtaidd, a elwir yn bresennol yn Gyngrhair Magners am rhesymau nawdd, yw'r gystadleuaeth flynyddol ar gyfer tîmau rhanbarthol rygbi'r undeb yr Alban, Cymru ac Iwerddon. Caiff y gynghrair ei ysteried yn un o'r tri cynghreiriau mwyaf yn Ewrop ynghŷd â Guinness Premiership Lloegr a Top 14 Ffrainc.

Mae pob tymor o'r gynghrair yn dechrau ym mis Medi ac yn para nes mis Mai. Er fod tymor yn cynnwys calendr o 22 penwythnos (gyda pob tîm yn cael 2 benwythnos rhydd), bydd rhaglen y dymor yn newid yn aml oherwydd ymyrraeth gemau eraill. Ni chaiff gemau eu chwarae ar benwythnosau rhyngwladol mis Tachwedd neu yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Bydd yr wyth tîm sy'n gorffen ar frig y gynhrair ar ddiwedd y tymor yn cael chwarae yn y Cwpan Heineken y tymor nesaf. Gall un tîm ychwanegol gael lle yn y gwpan Heineken drwy ennill gêm ail-gyfle yn erbyn y tîm sy'n gorffen yn drydydd ym mhencampwriaeth Deg Disglair yr Eidal.

Taflen Cynnwys

[golygu] Tîmau Presennol

[golygu] Cyn-dîmau

  • Abertawe (2001-2003)
  • Caerdydd (2001-2003)
  • Caerffili (2001-2003)
  • Casnewydd (2001-2003)
  • Castell Nedd (2001-2003)
  • Glyn Ebwy (2001-2003)
  • Llanelli (2001-2003)
  • Penybont (2001-2003)
  • Pontypridd (2001-2003)
  • Rhyfelwyr Celtaidd (2003-2004)
  • Gororau (2002-2007)

[golygu] Hanes

Ffurfiwyd y Gyngrhair Celtaidd yn 2001, ar ôl cytundeb rhwng Undeb Rygbi'r Alban, Undeb Rygbi Cymru ac Undeb Rygbi Iwerddon i greu cynghrair yn cynnwys naw clwb Cymraeg, dau glwb Albanaidd a pedwar talaith Gwyddelig. Roedd y clybiau Albaneg a Chymraeg yn barod wedi uno i greu un cynghrair rhwng y ddwy wlad yn nhymorau rygbi 1999 a 2000, ac byddai'r cytundeb newydd yn adio pedwar talaith Wyddelig i'r gynghrair.

[golygu] 2001-02

Byddai tymor agoriadol y gynghrair yn cynnwys 15 team: 2 glwb o'r Alban (Caeredin a Glasgow), 9 clwb o Gymru (Abertawe, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell Nedd, Glyn Ebwy, Llanelli, Penybont a Pontypridd) a 4 talaith Wyddelig (Connacht, Leinster, Munster a Ulster). Byddai'r tîmau'n chwarae mewn dau grŵp o 7 ac 8. Byddai'r 4 team ar frig y ddau grŵp ar ôl i bob tîm chwarae eu gilydd unwaith yn chwarae eu gilydd mewn gemau "knock-out".

Yn y tymor cyntaf, cyrrhaeddodd 3 o'r taliethiau Gwyddelig y rownd gyn-derfynol, a chwareuwyd y rownd derfynol rhwng Leinster a Munster ar gae Lansdowne Road. Enillodd Leinster 24-20 i ddod yn enillwyr tymor cyntaf y gystadleuaeth.

[golygu] 2002-03

Ar gyfer ail dymor y gystadleuaeth, creuwyd tîm Albanaidd newydd (Y Gororau) i godi presenoldeb yr Alban yn y gynghrair ac i sicrhau fod yr un nifer o dîmau yn y ddau grŵp. Ar wahân i hyn, roedd strwythur y gystadleuaeth yn union yr un fath ag yr oedd yn nhymor 2001-02.

Er fod y taleithiau Gwyddelig yn parhau i warae'n gryf yn y gynghrair, ni lwyddodd pencampwyr cyntaf y gystadleuaeth, Leinster, gyrraedd rownd yr wyth olaf. Felly, llwyddodd Munster i ennill eu gemau'n gyfforddus, yn ennill y ffeinal yn erbyn Castell Nedd o 37 pwynt i 17 yng Nghaerdydd.

[golygu] 2003-04

Cyn dechrau'r tymor newydd, newidiwyd strwythur rygbi yng Ngymru i rhanbarthu'r clybiau, ac felly newidwyd strwythur y gynghrair. Gyda'r 9 clwb o Gymru'n troi yn 5 rhanbarth (Gleision Caerdydd, Scarlets Llanelli, Gweilch Tawe-Nedd, Dreigiau Gwent a'r Rhyfelwyr Celtaidd), byddai nawr yn bosib creu cynghrair fwy traddodiadol lle byddai pob tîm yn chwarae eu gilydd dwywaith bob tymor (gatref ac bant o gatref) a'r tîm buddigol fyddai'r un ar frig y gynghrair ar ddiwedd y tymor. Roedd y system newydd yn caniatau rhaglen o 22 rownd gyda gemau'n cael eu chwarae ar bob penwythnos.

Oherwydd y fformat newydd, a'r ffaith yr oedd Cwpan y Byd Rygbi 2003 yn meddwl colled chwaraeuwyr rhyngwladol yn ystod nifer o benwythnosau cystadleuol y gynghrair, y tîmau gyda cryfder mewn dyfnder amlygodd eu hunain (ar gyfer un gêm rhwng y Scarlets a Munster, roedd 25 o waraewyr ddim ar gael o achos rygbi rhyngwladol). Er hynny, cafwyd diweddiad cyffrous i'r tymor, wrth i'r Scarlets (a oedd ar frig y tabl) lwyddo i guro Ulster (a oedd yn ail yn y tabl) ar benwythnos olaf y tymor i ennill y gynghrair.

Tymor 2003-04 byddai tymor cyntaf y Cwpan Celtaidd - cystadleuaeth cwpan traddodiadol rhwng y tîmau Celtaidd. Byddai fformat y gwpan yn newid y tymor canlynol fel bod dim ond 8 tîm gorau'r gynghrair yn cymryd rhan ynddo.

[golygu] 2004-05

Yn 2004, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru fod yn amhosib iddynt gynnal 5 tîm rhanbarthol, ac felly diddymwyd y Rhyfelwyr Celtaidd, er iddynt ymddangos fel un o'r rhanbarthau cryfaf a oedd yn cyfrannu y nifer o waraewyr rhyngwladol yn eu tymor cyntaf. Felly, disgynnodd y nifer o dîmau yn y gynghrair unwaith yn rhagor i 11. Byddai hwn hefyd yn caniatau i bob tîm cael dwy benwythnos rhydd yn ystod y calendr o 22 penwythnos.

Heb gwpan y byd i dynnu sylw y tîmau, hwn fyddai'r tymor pwysicaf yn hanes byr y gynghrair. Byddai dosraniad chwaraewyr y Rhyfelwyr Celtaidd i'r rhanbarthau eraill yn gyffredinol yn codi ansawdd rygbi'r tîmau Cymraeg. Cyhoeddwyd y fyddai llefydd ar gyfer y cwpan Heineken yn cael eu dewis trwy berfformiad yn y Gynghrair Celtaidd. Ni fyddai Connacht yn cael ei labeli fel talaith ddatblyogl rhagor gan undeb rygbi Iwerddon. Cyhoeddwyd hefyd y byddai hyfforddwyr Iwerddon yn cael atal chwaraewyr Gwyddelig rhag chwarae yn y Gynghrair Celtaidd ar gyfer sesiynau ymarfer y garfan rhyngwladol. Oherwydd hyn, byddai'r taleithiau fel Leinster a Munster yn aml yn chwarae eu hail dimau ar benwythnosau cyn gemau rhyngwladol ac yn ystod tair wythnos gyntaf y tymor. Er hynny, gorfennodd Munster y tymor yn ail, a Leinster yn drydydd. Y Gweilch oedd pencampwyr 2004-05, yn golygu mae hwn oedd yr ail dymor yn olynol i un o rhanbarthau Cymru ennill y gynghrair.

[golygu] 2005-06

Bu trafodaethau rhwng undebau rygbi Cymru a Lloegr i drefnu Cwpan Eingl-Gymreig yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn. Oherwydd fod y cwpan newydd hwn yn ymyrryd â rhaglen dymor y Gynghrair Celtaidd (ac yn cymryd lle'r Cwpan Celtaidd), diarddelwyd rhanbarthau Cymru o'r gynghrair gan undebau yr Alban ac Iwerddon ym Mehefin 2005. Dim ond ychydig o fisioedd cyn y tymor newydd, roedd yn edrych fel petai'r gynghrair yn mynd i gael ei aildrefnu i gynnwys 4 tîm Eidaleg i gymryd lle'r rhanbarthau Cymraeg. Er hynny, llwyddodd undebau'r gwledydd Celtaidd gyrraedd cytundeb i gadw'r gynghrair yn ei strwythur presennol. Byddai rhanbarthau Cymru yn gorfod chwarae eu gemau lleol yn ganol wythnos i gadw rhai penwythnosau'n rhydd ar gyfer y Cwpan Eingl-Gymreig.

Er y problemau ynglŷn â trefnu'r gynghrair, roedd tymor 2005-06 yn lwyddiannus o ran maint y torfeydd gan eu bod wedi codi tua 50,000 o gymharu â'r tymor cynt. Yn debyg i dymor 2003-04, penderfynwyd pencampwyr y gynghrair ar benwythnos olaf y tymor. Ar ôl I Leinster guro Caeredin, byddai'n rhaid i Ulster guro'r Gweilch i fod yn bencampwyr. Yn mynd i mewn i amser anafiadau, roedd y Gweilch ar y blaen. Ond gyda cic ola'r gêm, sgoriwyd gôl adlam gan faswr Ulster David Humphreys i ennill y gêm a'r gynghrair.

[golygu] 2006-07

Ym mis Mai 2006, cyhoeddwyd y byddai Magners Irish Cider yn noddi'r gynhrair am bump tymor. Er fod Magners yn cael ei frandio'n Bulmers Irish Cider yng Ngweriniaeth Iwerddon, byddai'r gynghrair yn swyddogol yn cael ei alw'n y Gyngrhair Magners ym mhob un o'r gwledydd Celtaidd.

Ym mis Mawrth 2007, cyhoeddodd Undeb Rygbi yr Alban nad oedd modd cynnal tair rhanbarth, ac felly byddai'n rhaid terfynu rhanbarth y Gororau ar ddiwedd tymor 2006-07. Roedd yn ymddangos fod problemau ariannol yr undeb yn ei wneud yn amhosib iddynt ariannu'r rhanbarth a cynnal rygbi o answadd digon da i gystadlu yn Ewrop. Beirniadwyd y penderfyniad yma yn hallt gan nifer o bobl, yn cynnwys rhanbarthau rygbi Caeredin a Glasgow, a bu cryn dipyn o wrthwynebiad gan gefnogwyr y Gororau. Er ymgeisiadau gan bobl lleol i godi arian i gynnal y tîm, terfynnwyd y tîm ar ddiwedd y tymor.

Am y rhan fwyaf o'r tymor, dominyddwyd y gynghrair gan y tîmau Gwyddelig Leinster ac Ulster. Er hynny, gorffennodd y tymor â tair o rhanbarthau Cymru yn y pedwar uchaf ar ôl iddynt ennill nifer o gemau yn olynol yn erbyn eu gwrthwynebyddion agos. Collodd Leinster i'r Gleision ar benwythnos olaf y tymor i alluogi'r Gweilch i ennill y gynghrair am yr ail dro yn eu hanes drwy guro'r Gororau yn Netherdale. Felly, bu'n dymor da i'r rhanbarthau o Gymru. Dangoswyd fod gan y Gweilch garfan digon dawnus a mawr i fedru cystadlu yn rhesymol mewn nifer o gystadleuthau (yn cyrraedd rownd derfynol y Cwpan Eingl-Gymreig yn ogystal a ennill y Gynghrair Celtaidd), tra fod y Scarlets a'r Dreigiau wedi bod yn weddol llwyddiannus ym mhencampwriaethau Ewrop, ac felly methu canolbwyntio ar y gynghrair celtaidd.

[golygu] Pencampwyr

Cynghrair Celtaidd
Tymor Tîmau Ennillydd Ail
2001/02 15 Leinster Munster
2002/03 16 Munster Castell Nedd
2003/04 12 Scarlets Ulster
2004/05 11 Gweilch Munster
2005/06 11 Ulster Leinster
2006/07 11 Gweilch Gleision
2007/08 10 -- --
Cwpan Celtaidd
Tymor Tîmau Ennillydd Ail
2003/04 12 Ulster Caeredin
2004/05 8 Munster Scarlets

[golygu] Ffynhonellau

Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu