Cynllunio
Oddi ar Wicipedia
Cynllunio yw'n golygu penderfynu datblygiad yr amgylchedd naturiol a'r amgylchedd wedi eu adeiladu - sef tref neu wlad, er enghraifft gan gynnwys cynllun datblygiad stâd o dai, i ble ei adeiladu hi i ba nifer o bobl, neu cynllun ar gyfer codi ffatri newydd neu newid defnydd tir arall sylweddol.
[golygu] Cynlluniau
Ar hyn o bryd mae pump fath o brif cynllun yn cael eu penderfynu ar gyfer Cymru: Cynllun Gofodol, Cynllun Fframwaith, Cynllun Lleol, Cynllun Lleol Mwynau a Chynllun Datblygu Unedol.
Mae Cynllun Gofodol yn gynllun ar gyfer ddatblygiad Cymru cyfan dros 20 mlynedd sydd yn cynnwys yr amcanion datblygiad yr holl wlad. Mae pob cynllun arall yn gynllun am 10 mlynedd.
Cynllun sydd yn cael eu penderfynu mewn ardaloedd gwledig yw Cynllun Fframwaith, Cynllun Lleol a Chynllun Lleol Mwynau. Mae Cynllun Fframwaith yn penderfynu strategïau datblygiad sylfaenol yr ardal, er enghraifft pa nifer o dai yw'n rhaid eu adeiladu a lle eu adeiladu nhw. Mewn ardal Cynllun Fframwaith mae nifer o Cynlluniau Lleol sydd yn cael eu paratoi gan Cyngor Dosbarth. Maen nhw'n dehongli'r Cynllun Fframwaith ar lefel leol ac felly yn cynnwys manylion ar gyfer yr ardal sydd dim mewn Cynllun Fframwaith. Mewn ardaloedd gan hanes cloddio mae Cynllun Lleol Mwynau, hefyd.
Yn y dinasoedd mawr yw Cynllun Datblygu Unedol yn cael ei penderfynu. Mae e'n cynnwys yr un fath o benderfyniadau fel Cynllun Fframwaith a Chynllun Lleol, ond mae e'n cyfuno'r dau. Os yn angenrheidiol ydy e'n cynnwys penderfyniadau ar gyfer mwynau, hefyd.
[golygu] Sefydliadau perthnasol
Mae dwy fath o framwaith cynllunio yng Nghymru: deddfwriaeth cynlluno sydd yn cael ei penderfynu gan llywodraeth y Deyrnas Unedig a rhaglenni a fframweithiau polisi yr Undeb Ewropeaidd sydd yn rhaid eu cyflawni. Ond mai yr Cynlliad Cenedlaethol Cymru sydd yn penderfynu'r holl fframwaith cynllunio ar gyfer Gymru, gan gynnwys y Cynllun Gofodol a rheoli cynllunio, megis Canllawiau Cynllunio (Cymru) a Nodynnau Cyngor Technegol. Mae'r Awdurdodau Cynllunio Lleol yn cyfrifol dros cynllunio ar gyfer eu hardal. Gellir sefydliadau eraill, fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru neu'r Asiantaeth yr Amgylchedd cynnal cymorth ar gyfer hynny.
Mae nifer o grwpiau diddordeb sydd yn rhoi gwybodaeth i'r pobl sydd yn ymddiddori mewn cynllunio ac yn cefnogi neu gwrthwynebu cynlluniau.