Undeb Ewropeaidd
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn gymuned wleidyddol ac economaidd sydd â nodweddion goruwchgenedlaethol a rhyng-lywodraethol. Ers 1 Ionawr 2007, mae'n cynnwys 27 o aelod-wladwriaethau. Sefydlwyd yr UE ym 1993 gan Gytundeb Maastricht, er i'r broses o integreiddio Ewropeaidd gychwyn gyda'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE), a luniwyd gan chwe gwlad Ewropeaidd ym 1957.
Creodd yr UE farchnad sengl sy'n ceisio gwarantu'r rhyddid i symud pobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf yn ddirwystr rhwng yr aelod-wladwriaethau. Mae'r UE yn cynnwys polisïau cyffredin dros fasnach, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a datblygiad rhanbarthol. Ym 1999, cyflwynodd yr UE arian cyfredol cyffredin, sef yr ewro, a fabwysiadwyd gan 13 aelod-wladwriaeth. Mae hefyd wedi datblygu rôl mewn materion polisi tramor, a chyfiawnder a materion cartref.
Gyda bron 500 miliwn o ddinasyddion, cynhyrchodd yr UE gynnyrch mewnwladol crynswth y pen o €11.4 triliwn (£8 triliwn) yn 2007. Mae'n cynrychioli ei aelodau o fewn Sefydliad Masnach y Byd ac mae'n bresennol fel sylwedydd yn uwch-gynadleddau'r G8. Mae 21 o aelodau'r UE yn aelodau o NATO. Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol, sef Senedd Ewrop, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, y Comisiwn Ewropeaidd, Llys Cyfiawnder Ewrop a Llys Archwilwyr Ewrop, yn ogystal â gwahanol gyrff eraill, er enghraifft Banc Canolog Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau. Mae dinasyddion yr UE yn ethol aelodau Senedd Ewrop bob pum mlynedd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Ganwyd yr Undeb Ewropeaidd fel cydffederasiwn o wledydd i ail-adeiladu Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac er mwyn rhwystro hunllef rhyfel arall. Cymuned Ewropeaidd Economaidd, neu Marchnad Gyffredin oedd enw cyntaf yr UE. Newidiwyd yr enw i Cymuned Ewropeaidd ac wedyn i Undeb Ewropeaidd. Wedi dechrau fel undeb masnach datblygodd yr UE i fod yn undeb economaidd a gwleidyddol.
[golygu] Aelod-wladwriaethau
Ers 1 Ionawr, 2007 mae 27 o aelod-wladwriaethau yn yr Undeb Ewropeaidd, ond dim ond 6 o wledydd sefydlodd yr UE ym 1952/1958:
Mae 21 o wladwriaethau wedi ymuno â'r UE erbyn hyn:
- ym 1973: Denmarc, Gweriniaeth Iwerddon a'r Deyrnas Unedig
- ym 1981: Gwlad Groeg
- ym 1986: Portiwgal a Sbaen
- ym 1990: ehangwyd tiriogaeth yr UE trwy uno'r Almaen
- ym 1995: Awstria, Y Ffindir, a Sweden
- yn 2004: Cyprus, Y Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Malta, Gwlad Pwyl, Slofacia a Slofenia
- yn 2007: Bwlgaria a Rwmania
Cafodd Y Lasynys ymreolaeth gan Denmarc ym 1979 a gadawodd yr UE ym 1985 ar ôl refferendwm. Gweler hefyd y brif erthygl Ehangu'r Undeb Ewropeaidd.
Heb fod yn aelod-wladwriaethau o'r UE, mae perthynas arbennig â'r UE gan lawer o wledydd fel Monaco ac Andorra.
Mae maint holl dirwedd 25 aelod-wladwriaeth yr UE (2004) yn 3,892,685 km². Petasai'r UE yn un wlad, byddai'n seithfed fwyaf yn y byd. Roedd boblogaeth yr UE (sef poblogaeth aelod-wladwriaethau'r UE o dan delerau Cytundeb Maastricht) yn 453 miliwn ym mis Mawrth 2004 ac felly, petasai'n un wlad, yn drydedd ar ôl India a Tseina.
[golygu] Llywodraethu
[golygu] Statws
Yr Undeb Ewropeaidd yw'r gyfundrefn ryngwladol fwyaf pwerus yn y byd. Mae nifer o aelod-wladwriaethau wedi rhoi hawliau sofraniaeth genedlaethol i'r UE (er enghraifft arian, polisi ariannol, marchnad fewnol, masnach dramor) ac felly mae'r UE yn datblygu yn rhywbeth tebyg i wladwriaeth ffederal. Beth bynnag, nid ydyw'n wlad ffederal, ond mae'n pwysleisio "subsidiarity" (term arbennig sy'n disgrifo'r egwyddor o benderfynu pethau mor agos â phosib i'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau). Mae'r aelod-wladwriaethau yn rheoli'r cytundebau ac ni all yr UE drosglwyddo hawliau ychwanegol o'r aelod-wladwriaethau i'r UE.
[golygu] Fframwaith sefydliadol
Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol:
- Senedd Ewrop
- Cyngor yr Undeb Ewropeaidd (nid i'w gymysgu â'r Cyngor Ewropeaidd)
- Comisiwn Ewropeaidd
- Llys Cyfiawnder y Cymunedau Ewropeaidd
- Llys Archwilwyr Ewrop
Sefydliadau gwleidyddol yw'r Senedd, y Cyngor a'r Comisiwn, sy'n dal grym gweithredol a deddfwriaethol yr Undeb. Mae'r Senedd yn cynrychioli'r dinasyddion, mae'r Cyngor yn cynrychioli eu llywodraethau, ac mae'r Comisiwn yn cynrychioli'r budd Ewropeaidd cyffredinol. Y Comisiwn yn unig sydd â'r hawl i ddrafftio deddfwriaeth. Cyflwynir deddfwriaeth ddrafft i'r Senedd a'r Cyngor, y mae rhaid iddynt ei chymeradwyo, er bod y weithdrefn benodol yn dibynnu ar bwnc y ddeddfwriaeth dan sylw. Unwaith wedi'i chymeradwyo ac wedi'i llofnodi, mae'r ddeddfwriaeth yn dod i rym. Dyletswydd y Comisiwn yw sicrhau y cydymffurfir â chyfraith yr Undeb.
Mae hefyd nifer o gyrff ac asiantaethau pwysig eraill nad ydynt yn sefydliadau swyddogol. Mae'r rhain yn cynnwys dau bwyllgor ymgynghorol, sef Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol, sy'n rhoi eu cyngor ynghylch materion rhanbarthol, economaidd a chymdeithdasol.
Mae cyrff ac asiantaethau eraill yn cynnwys:
- Banc Canolog Ewrop
- Banc Buddsoddi Ewrop
- Asiantaeth Amgylchedd Ewrop
- Europol
- Swyddfa Cyhoeddiadau Swyddogol
- Ombwdsman Ewropeaidd
Bydd Cytundeb Lisbon yn gwneud nifer o newidiadau i fframwaith sefydliadol yr Undeb. Daw'r Cyngor Ewropeaidd a Banc Canolog Ewrop yn sefydliadau llawn, a chaiff Llys y Gwrandawiad Cyntaf ei ailenwi yn "Lys Cyffredinol".
[golygu] Polisïau
Dechreuodd yr UE fel grŵp o wledydd yn cydweithredu'n economaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd wedyn i gynnwys cydweithredu gwleidyddiol. Fel hynny, roedd pŵer gwleidyddiol yn symud o'r aelod-wladwriaethau i sefydliadau'r UE. Beth bynnag, mae hynny'n cael ei cydbwyso gan y ffaith bod gan nifer o aelod-wladwriaethau draddodiad o lywodraeth gryf yn eu rhanbarthau. Mae pwysigrwydd rhanbarthau Ewrop yn cynyddu a sefydlwyd Pwyllgor y Rhanbarthau trwy Gytundeb Maastricht.
[golygu] Cysylltiadau allanol
[golygu] Sefydliadau
- Senedd Ewrop
- Cyngor yr Undeb Ewropeaidd
- Comisiwn Ewropeaidd
- Llys Cyfiawnder Ewrop
- Llys Archwilwyr Ewrop
[golygu] Cyrff eraill
[golygu] Ffynonellau eraill
Cytundebau, strwythur a hanes yr Undeb Ewropeaidd | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
1951/1952 | 1957/1958 | 1965/1967 | 1992/1993 | 1997/1999 | 2001/2003 | 2007/2009 (?) |
U N D E B E W R O P E A I D D ( U E ) | ||||||
Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur (CEGD) | ||||||
Cymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) | Cymuned Ewropeaidd (CE) | |||||
Cymuned Ewropeaidd Ynni Atomig (Euratom) | ||||||
Tair Cymuned Ewropeaidd: CEGD, CEE ac Euratom | Cyfiawnder a Materion Cartref | |||||
Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol mewn Materion Trosedd |
||||||
Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin (PTDC) | ||||||
Cytundeb Paris | Cytundebau Rhufain | Cytundeb Cyfuno | Cytundeb Maastricht | Cytundeb Amsterdam | Cytundeb Nice | Cytundeb Lisbon |
"Tri philer yr Undeb Ewropeaidd" (y Cymunedau Ewropeaidd, y PTDC, a Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol) |
|
|
---|---|
Aelodau arhosol | Yr Almaen · Canada · Y Deyrnas Unedig · Yr Eidal · Ffrainc · Japan · Rwsia · Yr Unol Daleithiau |
Cynrychiolaethau ychwanegol | Yr Undeb Ewropeaidd |