Cynulleidfa'r Brodyr Cristnogol
Oddi ar Wicipedia
Urdd Gatholig o ddynion yw Cynulleidfa'r Brodyr Cristnogol (enw Lladin swyddogol: Congregatio Fratrum Christianorum), wedi ei sefydlu gan Edmund Ignatius Rice yn Iwerddon yn 1802. Mae'r Brodyr Cristnogol wedi agor ysgolion yn Iwerddon, Prydain Fawr, Unol Daleithiau America, Canada, Periw, India, De Affrica, Seland Newydd ac Awstralia.
Mae tua 1,300 o frodyr yn yr urdd ar hyn o bryd.