Cysawd yr Haul
Oddi ar Wicipedia
Mae Cysawd yr Haul (hefyd Cyfundrefn yr Haul) yn cynnwys yr Haul a'r gwrthrychau nefol sydd wedi eu clymu iddo gan ddwyster: wyth planed, eu 162 o loerennau a wyddys, tair planed gorrach a'u pedair lloeren, a miloedd o gyrff bach, gan gynnwys asteroidau, Sêr wib, comedau, a llwch rhyngblanedol.
Mewn termau eang, mae Cysawd yr Haul yn cynnwys yr Haul, pedwar corff creigiog a elwir y planedau mewnol, gwregys mewnol o asteroidau, pedair planed enfawr allanol (a elwir cewri nwy), ail wregys o gyrff bach rhewllyd a elwir Gwregys Kuiper, cwmwl enfawr o gomedau a elwir y Cwmwl Oort, a rhanbarth o blanedau llai rhewllyd a elwir y Ddisg Wasgaredig.
Ffurfiodd Cysawd yr Haul tua 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl, wrth i gwmwl o nifwl ddymchwel ar ei hun, drwy rymoedd disgyrchiant, i wrthrych a elwir yn Gorrach Melyn, gan ddechrau adwaith ymasiad niwclear, yn llosgi hydrogen i gynhyrchu heliwm. Erbyn hyn, mae'r haul yn ei gyfnod prif ddilyniant, sydd yn golygu bod grymoedd disgyrchiant a gwasgedd pelydriad yn hafal, ac felly mae'r haul yn aros yr un maint.
[golygu] Gwrthrychau Cysawd yr Haul
- Sêr: Yr Haul
- Planedau: Mercher, Gwener, y Ddaear, Mawrth, Iau, Sadwrn, Wranws, Neifion
- Lloerennau: Y Lleuad Titan Triton Charon Rhea Phoebe Iapetws Nereid Protëws Larissa Naiad Thalassa Despina Phobos Deimos Galatea Cordelia Ophelia Bianca Cressida Desdemona Juliet Portia Rosalind Belinda Puck Miranda Ariel Umbriel Titania Oberon Caliban Sycorax Prospero Setebos Stephano Pan Atlas Promethëws Pandora Epimethëws Ianws Mimas Enceladws Tethys Telesto Calypso Dione Helene Hyperion Dysnomia Nix Hydra
- Planedau corrach: Plwton Ceres Eris
- Asteroidau
- Sêr wib
- Comedau
- Gwregys Kuiper
- Sedna
- Cwmwl Oort
- Y Ddisgen Wasgaredig
[golygu] Dolenni allanol
- Cysawd yr Haul BBC Cymru
- Gwefan darganfod Cysawd yr Haul NASA
- Efelychydd Cysawd yr Haul ar wefan NASA
- Prif dudalen NASA/JPL ar Gysawd yr Haul
- Yr Wyth Planed
- Data am y Planedau
- SolStation: Sêr a'u planedau trigiadwy
- SPACE.com: Gwybodaeth am Gysawd yr Haul
- Y pellteroedd rhwng y planedau wedi'u darlunio
- Maint cymharol y planedau, yr Haul a sêr eraill
Planedau: Mercher | Gwener | Y Ddaear | Mawrth | Iau | Sadwrn | Wranws | Neifion |