Planed
Oddi ar Wicipedia
Planed yw corff sy'n teithio o amgylch seren, e.e yr haul yw seren y Ddaear. Mae gan Cysawd yr Haul wyth planed, tair planed gorrach a sawl planed llai. Mae sawl planed enfawr wedi cael eu darganfod yn cylchio sêr eraill, ac mae planedau llai eu maint yn cael eu darganfod trwy ficrolensio dwysterol; gelwir y planedau hyn yn blanedau allheulol.
[golygu] Diffiniad
Mae planed yn gorff sydd:
a) mewn orbit ei hun o amgylch yr Haul; b) gyda digon o fás er mwyn cynnal disgyrchiant ei hun sydd yn ddigonol er mwyn trechu grymoedd gan gyrff eraill, fel ei fod yn ffurfio siap hydrostatig cytbwys; c) wedi clirio'r gofod yn ei orbit.