Cysylltiadau rhyngwladol
Oddi ar Wicipedia
Cangen o wyddor gwleidyddiaeth yw cysylltiadau rhyngwladol sy'n ymwneud ag astudiaeth materion tramor a chysylltiadau rhwng gwladwriaethau o fewn y gyfundrefn ryngwladol, yn cynnwys rhannau gwladwriaethau, sefydliadau rhyngwladol (IGOau), sefydliadau anlywodraethol (NGOau), a chwmnïau amlwladol (MNCau). Mae'n faes academaidd a pholisi cyhoeddus, a all fod naill ai'n bositif neun'n normadol gan fod ei amcan yw i ddadansoddi yn ogystal â ffurfio polisïau tramor gwladwriaethau.
Ar wahân i wyddor gwleidyddiaeth, mae cysylltiadau rhyngwladol yn ymwneud â meysydd gwahanol fel economeg, hanes, cyfraith, athroniaeth, daearyddiaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, seicoleg, ac astudiaethau diwylliannol. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o faterion, o globaleiddio a'i effeithiau ar gymdeithasau a sofraniaeth wladwriaethol i gynaliadwyedd ecolegol, amlhau niwclear, cenedlaetholdeb, datblygiad economaidd, terfysgaeth, tor-cyfraith cyfundrefnol, diogelwch dynol, a hawliau dynol.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.