Damcaniaeth grŵpiau
Oddi ar Wicipedia
Cangen o Fathemateg ydyw Damcaniaeth Grŵpiau, lle astudir grŵpiau. Mae ganddo lawer o gymwysiadau o fewn Mathemateg, yn ogystal a mewn Ffiseg a Chemeg.
Defnyddir grŵpiau fel model o gymesuredd.
Theori Galois yw tarddiad hanesyddol y cysyniad o grŵp.
Gellir cymhwyso strwythr grŵp abelaidd i sawl gwrthrych a astudir mewn Algebra haniaethol, megis modrwyon, cyrff, a modwlau.
Mewn Topoleg algebreaidd, gefnyddir grŵpiau i ddisgrifio'r priodweddau o ofod topologaidd nad ydynt yn newid wrth aflunio'r gofod mewn modd priodol.
Mae'r cysyniad o grŵp Lie yn bwysig wrth astudio hafaliadau differol. Maent yn cyfuno Dadansoddi a theori grŵpiau.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.