Daniel O'Connell
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd o Wyddel a ymgyrchodd dros ryddid crefyddol i Gatholigion Iwerddon oedd Daniel o'Connell (6 Awst, 1775 - 15 Mai, 1847) (Gwyddeleg: Dónal Ó Conaill). Roedd y brydyddes Wyddeleg Eibhlín Dhubh Ní Chonaill yn fodryb iddo.
Yn ystod y 1820au gwethiai'n ddyfal dros ennill yr hawl i eistedd yn Senedd Prydain gan Gatholigion, "braint" oedd yn gyfyngedig i Brostestanniaid yn unig yr adeg honno. Roedd yn Gatholig ei hun a phan enillodd sedd fel Aelod Seneddol Swydd Clare yn 1828 bu rhaid i lywodraeth Prydain Fawr ildio. Ar ôl hynny cafodd ei lysenwi 'Y Rhyddhawr'.
Ei uchelgais nesaf oedd ceisio gwrthddeddfu Undeb Iwerddon â Phrydain Fawr, ond methiant fu hynny, yn rhannol am iddo golli cefnogaeth y mudiad mwy chwyldroadol Young Ireland.