Dave Brailsford
Oddi ar Wicipedia
Cyfarddwyddwr Perfformiad British Cycling ydy Dave Brailsford MBE (ganwyd 1963)
Magwyd Brailsford yng Ngogledd Cymru, yn fab i Dywys Mynyddoedd Alpaidd[1]
Bu Brailsford yn cystadlu yn Ffrainc am bedair blynedd fel seiclwr proffesiynol cyn dychwelyd i Brydain yn 23 oed i astudio gradd mewn Gwyddoniaeth chwaraeon a Seicoleg, cyn mynd ymlaen i astudio MBA yn ysgol busnes Sheffield. Mae wedi ymwneud â byd seiclo drwy gydol ei yrfa, cyflogwyd ef gan British Cycling gyntaf fel ymgynghorydd pan ddechrodd y Loteri Genedlaethol gyflenwi ariannu. Symudodd ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Rhaglennu cyn dod yn Gyfarddwyddwr Perfformiad.[2]
Arweiniodd Braisfold dîm seiclo Prydain i nifer o fuddugoliaethau yng Ngemau Olympaidd 2004 yn Athens, adnabyddwyd ei gyfraniad blwyddyn yn ddiweddarach gyda MBE ar restr Anrhydeddau penblwydd y Frenhines.[2]