David Owen (Brutus)
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Brutus.
Roedd David Owen, sy'n adnabyddus dan ei ffug enw Brutus (1795 - 1866), yn llenor dadleuol, golygydd a phregethwr a aned yn Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Gyrfa
Cafodd ei fagu yn Annibynwr yn Sir Gaerfyrddin a threuliodd gyfnod mewn rhannau eraill o'r wlad fel ysgolfeistr. Ar ôl gyrfa helbulus fel gweinidog gyda'r Bedyddwyr, troes ei gefn ar Ymneilltuaeth ac ymunodd ag Eglwys Loegr yn 1835 lle daeth yn olygydd Yr Haul, cylchgrawn yr Anglicaniaid yng Nghymru. Cyhoedoddodd nifer o lyfrau ar bynciau crefyddol at ddefnydd y cyn cyffredin. Yn ogystal ysgrifennodd dau hunangofiant byr ar John Elias a Christmas Evans.
[golygu] Y dychanwr
Fel golygydd a llenor daeth yn adnabyddus am ei ymosodiadau llym a deifiol, mewn erthyglau a llyfrau, ar bregethwyr lleyg swnllyd yr enwadau Ymneilltuol, yn enwedig y rhai a bregethai yng ngefn gwlad Cymru, am eu diffyg moesoldeb a'u hanwybodaeth. Yr enwocaf o'r rhain oedd y stori ddychanol Wil Brydydd y Coed, a ymddangosodd yn gyntaf yn Yr Haul rhwng 1863 a 1865. Yn y llyfrau hyn a nifer fawr o erthyglau, mae Brutus yn ymosod yn llym ar y 'jacs' (pregethwyr ymneilltuol) a 'Jacyddiaeth.' Gwawdiai'r beirdd eisteddfodol, meddygon "cwac" ac ofergoelion hefyd. Ceidwadwr o ran ei wleidyddiaeth oedd Brutus, a aeth mor bell ag i ddychanu'r Gymraeg ei hun, neu o leiaf y beirdd israddol a oedd mor barod i'w dyrchafu i'r cymylau, ond er bod ei faes yn gyfyng roedd yn un o awduron rhyddiaith gorau ei oes.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Gwaith Brutus
- Cofiant John Elias
- Cofiant Christmas Evans
- Cofiant Wil Bach o'r Pwll-dŵr (dychan)
- Cofiant Siencyn Bach y Llwywr (dychan)
- Cofiant Dai Hunan-dyb (dychan)
- Wil Brydydd y Coed (dychan)
- Brutusiana (1855). Cyfrol o'i erthyglau a'i ysgrifau.
[golygu] Astudiaethau
- Thomas Jones, 'Brutus,' yn Mân Us (Caerdydd, 1949)