Desiderius Erasmus
Oddi ar Wicipedia

Yr oedd Desiderius Erasmus (27 Hydref 1466/1469 - 12 Gorffennaf 1536) yn ddyneiddiwr Gristnogol a llenor o Iseldirwr, a aned yn Rotterdam.
Erasmus oedd efallai'r mwyaf dylanwadol o feddylwyr mawr y Dadeni, nid yn unig am ei feddwl treiddgar ond am ei fod wedi astudio a dysgu ledled Ewrop.
Roedd yn ddyn dysgiedig iawn, yn ysgolhaig penigamp, a chyhoeddodd nifer o lyfrau yn ystod ei oes. Yr enwocaf ohonynt yw yr Encomium Moriae ("Molawd Ffolineb", 1509), a ysgrifennodd er diddanu ei gyfaill Thomas More.
Cyfieithodd y Testament Newydd o'r Roeg, am y tro cyntaf erioed, a dangosodd mai dogfen ail-law oedd y Beibl Fwlgat (cyfieithiad o gyfieithiad).
Gwrthwynebai'n gryf ddogmatiaeth a grym yr offeiriaid ac eto ni wrthododd y ddiwinyddiaeth Gatholig a chadwodd draw o'r ddadl ffyrnig ynghylch dysgeidiaeth Martin Luther.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Colloquia
- Apophthegmatum opus
- Adagia
- In Praise of Folly